Cafodd y gwasanaethau brys eu galw y prynhawn ’ma wedi i awyren blymio i’r ddaear ym Margam ger Port Talbot.

Cafodd dau o bobol eu cludo i’r ysbyty ag anafiadau, ond dydy eu bywydau ddim mewn perygl.

Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i natur ac achos y digwyddiad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De ar 101.