Jill Evans
Mae Aelod Seneddol Ewrop Plaid Cymru, Jill Evans, yn galw eto am atal trafodaethau ynglŷn â’r cytundeb masnach TTIP dadleuol.

Mae’r Bartneriaeth Masnach a Buddsoddiad TrawsIwerydd – neu’r TTIP – yn gytundeb masnach dwyochrog sy’n cael ei drafod ar hyn o bryd rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Unol Daleithiau. Bydd yr unfed rownd ar ddeg yn cael ei chynnal yn Miami yr wythnos hon.

Mae Plaid Cymru’n gwrthwynebu’r cytundeb a’r posibilrwydd y gallai gwasnaethau cyhoeddus fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, y gwasanaethau tân ac addysg fod yn agored i breifateiddio oherwydd cystadleuaeth o gwminau Americanaidd. Fe allai wanhau ein safonau amgylcheddol, ansawdd bwyd a hawliau i weithwr a frwydrwyd mor galed i’w sicrhau.

Un o’r prif bryderon yw’r System Llys Rhyngwladol (ICS) a allai olygu bod cwmniau rhyngwladol yn gallu dirwyo llywodraethau a etholwyd yn ddemocrataidd mewn llysoedd cyflafareddu. Yn dilyn lobio dwys, cyflwynwyd cyfaddawd o fersiwn, ond mae’n parhau i adael i ymwelwyr tramor ddefnyddio haenen wahanol o gyfraith yn hytrach na’r system gyfreithiol ddomestig.

“Mae Comisiwn Ewrop wedi gwneud peth newidiadau i gytundeb arfaethedig TTIP, ond mae’r peryglon i’n gwasanaethau cyhoeddus a safonau amgycheddol yn parhau,” meddai Jill Evans.

“Wrth i’r trafodaethau cyfrinachol hyn barhau ym Miami yr wythnos hon, mae Plaid Cymru’n galw am eu hatal hyd nes y gallwn gael trafodaeth iawn ynglŷn â’r math o gytundeb masnach mae Cymru’n dymuno ei weld.

“Mae yna reswm pam y cafodd hwn ei alw’n ‘Gytundeb Ceffyl Caerdroia’ Mae’r rhan fwyaf o’r dogfennau’n gyfrinachol ond mae’r hyn a wyddom yn peri pryder difrifol. Ni ddylai ein perthnasau masnachol beri i ni ddioddef anfantais, a dyna’r perygl gyda TTIP.

“Mae mwy o etholwyr wedi dod i gyswllt â fi ynglŷn â TTIP nac unrhyw fater unigol arall. Mae yna wrthywnebiad chwyrn i hwn yng Nghymru ac mae’ n rhaid i’n lleisiau gael eu clywed. Bydd Plaid Cymru’n parhau i ymgyrchu er mwyn amddiffyn ein gwasanaethau, safonau a hawliau,” meddai wedyn.