Fe fydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau mewn mesurau arbennig am ddwy flynedd, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething heddiw.

Fe gyhoeddwyd hefyd bod Prif Weithredwr y Bwrdd, yr Athro Trevor Purt, wedi ymddiswyddo. Cafodd ei wahardd o’i waith ym mis Mehefin.

Roedd Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cynnal adolygiad o’r cynnydd a wnaed dros y pedwar mis diwethaf ers i’r bwrdd iechyd gael ei roi mewn mesurau arbennig ar 8 Mehefin.

Yn dilyn cyfarfod gydag uwch swyddogion Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac AGIC ddoe fe benderfynodd Vaughan Gething dderbyn eu cyngor y dylai Bwrdd Iechyd  Betsi Cadwaladr barhau mewn mesurau arbennig.

‘Camau positif’

Fe fydd cynnydd y bwrdd iechyd yn cael ei adolygu bob chwe mis ond fe fydd Betsi Cadwaladr yn parhau mewn mesurau arbennig am ddwy flynedd.

Dywedodd Vaughan Gething bod camau positif wedi cael eu gwneud mewn rhai o’r prif feysydd ond bod angen cynlluniau hirdymor er mwyn mynd i’r afael a heriau sylfaenol, yn enwedig gwella gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru.

“Tra fy mod yn derbyn bod hyn yn gyfnod anodd i’r sefydliad, hoffwn ddweud bod yr adborth gan staff wedi bod yn hynod o galonogol,” meddai Vaughan Gething.

Mae disgwyl iddo wneud datganiad pellach ynglŷn â cham nesaf y mesurau arbennig ar ôl hanner tymor.

‘Hynod siomedig’

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd Aled Roberts, AC y Democratiaid Rhyddfrydol yn y gogledd: “Rwy’n hynod siomedig bod y sefyllfa yng ngogledd Cymru wedi dirywio i’r fath raddau fel bod angen ei roi mewn mesurau arbennig.

“Mae’n ymddangos bod y bwrdd iechyd wedi methu ei darged pedwar mis.

“Mae’r prif weithredwr yn dweud wrthym fod y bwrdd iechyd wedi troi cornel ond dim ond profiadau’r cleifion all gadarnhau hynny.

“Mae angen cyflwyno newidiadau ar fyrder.”

‘Gwobrwyo rheolwyr am eu methiannau’

Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Darren Millar wedi galw ar y Gweinidog Iechyd i gyhoeddi manylion ynglŷn â thelerau’r pecyn ymddiswyddo a fydd yn cael ei roi i’r Athro Purt ar unwaith.

“Ni fydd cleifion yn fodlon derbyn bod uwch reolwyr yn cael eu gwobrwyo am eu methiannau,” meddai.

Cefndir

Cafodd mesurau arbennig eu cyflwyno ym mis Mehefin yn dilyn misoedd o drafferthion i’r bwrdd iechyd o ganlyniad i arweinyddiaeth wael.

Penllanw’r sefyllfa oedd y methiannau yn y gofal a gafodd ei roi yn ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd.

Bythefnos yn ol fe gyhoeddwyd bod disgwyl i orwariant y bwrdd ddyblu i £30 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn.

Dyma’r tro cyntaf i fwrdd iechyd yng Nghymru wynebu’r fath gamau.

Cafodd Dirprwy Brif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Simon Dean ei benodi fel prif weithredwr dros dro’r bwrdd yn lle’r Athro Trevor Purt.