Mae datblygwyr yn gobeithio denu siaradwyr Cymraeg rhugl a all fod o gymorth wrth ddatblygu cwrs iaith drwy app ffon symudol am ddim.
Yr wythnos diwethaf dechreuodd Duolingo ar y gwaith o adeiladu cwrs i ddysgu Cymraeg i siaradwyr Saesneg.
Mae’r app eisoes wedi profi’n llwyddiant mewn ieithoedd lleiafrifol eraill. Gwnaethpwyd defnydd o’r cwrs Gwyddeleg gan dros 1m o bobl o fewn blwyddyn i’w gyhoeddi.
“Mae Apple wedi rhoi’r dechnoleg i ni greu’r cwrs Cymraeg, ond mae angen cefnogaeth cynifer o bobl a phosib i gwblhau’r gwaith,’ meddai un o’r gwirfoddolwyr, Ifan Morgan Jones.
“Dim ond pump sy’n gallu mewnbynnu gwybodaeth i’r cwrs ar y dechrau, ond rydym yn awyddus i eraill gyfrannu at ddyluniad y cwrs.
“Mae hefyd angen arnom bobl a fydd yn fodlon hyrwyddo’r cwrs, a hefyd rhoi prawf arno a chynnig allbwn pan mae’r cyrraedd fersiwn Beta.
“Y mwyaf o gymorth sydd wrth ddatblygu’r ap, y cyflymaf y bydd yn y gwaith yn dod i ben a’r mwyaf fydd y cyfle i bobl dysgu Cymraeg drwy ei ddefnyddio.”
Sut i gyfrannu
Mae gan Duolingo tua 100 miliwn o ddefnyddwyr ledled y byd, ac mae modd defnyddio’r app i ddysgu dros 40 o ieithoedd, gan gynnwys Sbaeneg, Ffrangeg ac Almaeneg.
Mae modd ymweld â thudalen Facebook y prosiect Cymraeg yma, a dilynt hynt datblygiad y cwrs yma.
Dywedodd Ifan Morgan Jones, sy’n ddarlithydd yn Adran Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau Prifysgol Bangor, y gallai datblygu app Cymraeg fod yn fodd i’r iaith gyrraedd cynulleidfa fyd-eang.
“Mae yna nifer o gyrsiau ar-lein effeithiol er mwyn dysgu Cymraeg eisoes, megis Say Something in Welsh,” meddai.
“Ond mae poblogrwydd Duolingo yn golygu y byddwn yn colli cyfle drwy beidio â chynnig cwrs Cymraeg ar yr app.
“Mae’r fersiwn Gwyddelig wedi profi y gallai fod yn hwb gwirioneddol i nifer y bobl sy’n dysgu Cymraeg.
“Hyd yn oed os nad yw pawb sy’n ei ddefnyddio yn rhugl yn y pen draw, fe fydd yn hybu diddordeb yng Nghymru ac annog ymwelwyr sy’n gwerthfawrogi fod gennym ni ein hiaith a’n diwylliant ein hunain.
“Mae’r iaith yn gaffaeliad a gellid ei defnyddio er lles y wlad gyfan.”