Julian Ruck
Mae dyn 19 oed o Borth Tywyn yn Sir Gaerfyrddin wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag achos honedig o daro a ffoi.

Mae’r awdur Julian Ruck yn parhau mewn cyflwr “difrifol ond sefydlog” yn yr ysbyty ar ôl cael anafiadau difrifol i’w ben a’i goes mewn digwyddiad yng Nghydweli nos Sadwrn.

Roedd Ruck, 59 oed, sydd hefyd yn golofnydd a sylwebydd gwleidyddol, yn cerdded yn Stryd Newydd, Cydweli pan gafodd ei daro gan gerbyd tua 7.40yh.

Mae’r dyn 19 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi niwed drwy fethu a stopio ar ôl gwrthdrawiad ffordd.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn parhau i ymchwilio i’r digwyddiad ac yn apelio ar unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.