Fe ddaeth beth bynnag 400 o bobol ynghyd i nodi hanner canrif ers boddi pentref Capel Celyn yng Nghwm Tryweryn.

Mae hi’n hanner can mlynedd i’r diwrnod ddydd Mercher nesa’ – Hydref 21 – ers agor yr argae er mwyn diwallu anghenion dinas Lerpwl am ddwr.

Er bod y protestio fu ar y pryd yn aflwyddiannus, mae achos Tryweryn yn cael ei weld fel “deffroad” yn hanes cenedlaetholdeb Cymreig a Chymraeg, wedi i 12 fferm, y capel, a’r ysgol gael eu boddi, a 70 o bobol gael eu hanfon o’u cartrefi lle bellach mae’r llyn.

“Mae Tryweryn yn rhywbeth sy’n rhaid i ni ei gofio er mwyn dysgu gwersi,” meddai Dafydd Iwan yn y rali ddoe. “Roedd Capel Celyn yn gymuned naturiol Gymraeg, ond fe gafodd ei bygwth gan ddinas fawr, gyfoethog, yn Lloegr.”

Plaid Cymru oedd wedi trefnu’r rali, ac ymhlith y siaradwyr eraill yr oedd Aelod Seneddol Dwyfor-Meirionnydd, Liz Saville Roberts, a’r protestiwr Emyr Llewelyn.

Ar ddiwedd y rali, fe gariwyd baner ‘Cofiwch Dryweryn’ dros yr argae.