Gatland wedi gwneud rhagor o newid i'w dîm
Mae Tyler Morgan wedi cael ei ddewis fel canolwr yn nhîm Cymru ar gyfer eu gornest yn erbyn De Affrica yn rownd wyth olaf Cwpan Rygbi’r Byd dydd Sadwrn.

Tri newid sydd i dîm Warren Gatland o’r pymtheg ddechreuodd yn erbyn Awstralia penwythnos diwethaf, gyda Dan Lydiate yn dychwelyd i’r rheng ôl yn lle Justin Tipuric a Gethin Jenkins nôl yn y rheng flaen yn lle Paul James.

Mae Tipuric a James nôl ar y fainc ar gyfer yr ornest gan olygu nad oes lle i Ross Moriarty nac Aaron Jarvis ymysg yr eilyddion. Mae Bradley Davies hefyd yn cymryd lle Jake Ball ar y fainc.

Fe fydd George North yn symud nôl i’r asgell oherwydd anaf Liam Williams, sydd allan o weddill y twrnament, gan olygu bod lle i Morgan ddechrau yn y canol.

Un newid

Mae De Affrica eisoes wedi enwi eu tîm nhw i herio Cymru, gyda’r clo a’r capten Victor Matfield yn parhau i fod allan oherwydd nad yw wedi gwella o anaf i linyn y gâr.

Yr asgellwr JP Pietersen yw’r unig newid i dîm y Springboks o’r pymtheg ddechreuodd yn eu buddugoliaeth diwethaf dros yr UDA.

Er iddyn nhw golli eu gêm agoriadol yn erbyn Siapan fe lwyddodd De Affrica ennill eu grŵp oedd hefyd yn cynnwys yr Alban a Samoa.

Bydd yr enillydd rhwng Cymru a De Affrica yn Twickenham dydd Sadwrn yn herio Seland Newydd neu Ffrainc yn y rownd gynderfynol.

Tîm Cymru: Gethin Jenkins, Scott Baldwin, Samson Lee, Alun Wyn Jones, Luke Charteris, Dan Lydiate, Sam Warburton, Taulupe Faletau; Gareth Davies, Dan Biggar, George North, Jamie Roberts, James Hook, Alex Cuthbert, Gareth Anscombe

Eilyddion Cymru: Ken Owens, Paul James, Tomas Francis, Bradley Davies, Justin Tipuric, Lloyd Williams, Rhys Priestland, James Hook

De Affrica: Tendai Mtawarira, Bismarck Du Plessis, Frans Malherbe; Eben Etzebeth, Loos De Jager; Francois Louw, Schalk Burger, Duane Vermeulen; Fourie Du Preez, Handre Pollard, Bryan Habana, Damien De Allende, Jesse Kriel, JP Pietersen, Willie Le Roux

Eilyddion De Affrica: Adriaan Strauss, Trevor Nyakane, Jannie Du Plessis, Pieter-Steph Du Toit, Willem Alberts, Ruan Pienaar, Pat Lambie, Jan Serfontein