Llys y Goron Caerdydd
Mae myfyriwr sydd wedi ei gyhuddo o geisio treisio merch 19 oed wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd.

Mae Khalid Alahmadi, 23, myfyriwr ym Mhrifysgol De Cymru, wedi’i gyhuddo o ymosod ar y ferch yng Ngerddi’r Orsedd, ger Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Honnir bod yr ymosodiad wedi digwydd yn ystod oriau man 23 Medi wrth i’r ferch ddychwelyd o glwb nos.

Cafodd Alahmadi, sy’n byw yn Nheras Biwt, Caerdydd ei arestio ger ei gartref ar 26 Medi.

Fe fydd y gwrandawiad nesaf ar 21 Rhagfyr pan mae disgwyl i Alahmadi gyflwyno ple.

Mae disgwyl i’r achos gael ei gynnal ym mis Chwefror 2016.

Cafodd Alahmadi ei gadw yn y ddalfa.