Dan Munford, un o gefnogwyr Vote Leave (o wefan ei gwmni, Insight Research)
Mae dyn busnes o Gymru ymhlith cefnogwyr adnabyddus y mudiad newydd sy’n ymgyrchu i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe gafodd Vote Leave ei lansio tros nos ac mae Dan Munford,  o gwmni Insight yn y Trallwng, yn cael ei restru ymhlith criw o bobol fusnes “amlwg” sy’n cefnogi.

Mae rhai o brif noddwyr tair o’r pleidiau mawr – y Ceidwadwyr, Llafur ac UKIP – wedi eu dewis yn drysoryddion i’r ymgyrch ac mae ffigurau amlwg o’r pleidiau hefyd yn cefnogi.

Fe fydd ymgyrchoedd y pleidiau unigol hefyd yn gefnogol ac mae’r grŵp newydd wedi cael un enw amlwg o’r Blaid Werdd hefyd, y Farwnes Jenny Jones.

Pôl piniwn

Wrth lansio, roedden nhw’n tynnu sylw at bôl piniwn newydd sy’n awgrymu y byddai mwyafrif o blaid gadael yr Undeb, pe bai Prif Weinidog Prydain David Cameron yn methu â chael newidiadau sylfaenol yn y drefn.

Mae arolwg ICM o bron 2,000 o bobol hefyd yn awgrymu bod mwy yn gwbl bendant o bleidleisio ‘Na’ nag sydd yn gwbl bendant o ddweud ‘Ie’.

Dan Munford yw Prif Weithredwr Insight Research sydd â’i bencadlys yn y Trallwng; mae’n arbenigwr ar y diwydiant gwerthu petrol a manwerthu.