Huw Lewis
Mae Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru wedi awgrymu ei fod yn bwriadu  symud tuag at addysg Gymraeg i bob plentyn, yn ol Cymdeithas yr Iaith.

Gwnaeth Huw Lewis ei sylwadau mewn cyfarfod ag aelodau’r mudiad ddoe ac maen nhw wedi eu croesawu.

“Mae’r cysyniad o’r Gymraeg fel ail iaith yn gysyniad sydd ddim yn gweithio bellach, felly dyw hi ddim yn gwneud synnwyr o gwbl i gael cymhwyster o’r fath,” meddai wrth yr ymgyrchwyr.

“Dysgais i Gymraeg fel ail iaith, a dwi heb elwa llawer ohono.”

Ychwanegodd hefyd ei fod am gael gwared â’r pwnc yn gyfan gwbl ac y byddai’n rhesymol gwneud hynny o fewn pum mlynedd gan sefydlu system yn ei le sy’n sicrhau bod pob disgybl yn siarad Cymraeg.

Yn ôl y Gweinidog Addysg, mae dysgu mwy o bynciau mewn ysgolion Saesneg drwy gyfrwng y Gymraeg yn “rhan o’r ateb”.

Croeso gofalus

“Rydyn ni’n falch bod y Gweinidog yn gweld bod angen sicrhau bod pob disgybl, pa bynnag ysgol maen nhw’n ei mynychu, yn siarad Cymraeg yn rhugl. Yn wir, rydyn ni’n falch ei fod yn bwriadu dileu Cymraeg ail iaith, ac yn lle, sicrhau bod fwyfwy o bynciau mewn ysgolion Saesneg yn cael eu dysgu drwy’r Gymraeg,” meddai Jamie Bevan o Gymdeithas yr Iaith.

Bydd y Llywodraeth yn cynnal cynhadledd i drafod y cwricwlwm ddiwedd y mis, a dywedodd Jamie Bevan fod y mudiad yn “edrych ymlaen” at ei chyhoeddiad am “sut y byddan nhw’n gweithredu argymhellion adroddiad Sioned Davies.”

Yn 2012, fe wnaeth pwyllgor, a gafodd ei chadeirio gan yr Athro Sioned Davies, gyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru yn dweud bod angen rhoi’r gorau i ddysgu ‘Cymraeg Ail Iaith’, a bod angen i bawb ddysgu Cymraeg ar yr un continwwm.

“Er bod newyddion calonogol o’r cyfarfod, dydyn ni ddim wedi cael sicrwydd bod bwriad gosod targedau er mwyn sicrhau bod ’na, yn gynyddol, ragor o bynciau mewn ysgolion Saesneg yn cael eu dysgu drwy’r Gymraeg. Dyna oedd argymhelliad clir adroddiad Yr Athro Sioned Davies a gomisiynwyd gan y Llywodraeth,” ychwanegodd Jamie Bevan.

“Byddai’n destun pryder pe byddai’r Llywodraeth yn datgan bwriad i bob plentyn fod yn rhugl eu Cymraeg, ond heb fecanwaith i sicrhau bod newid ar ddiwedd y dydd. Heb gynllun bwriadus a thargedau statudol cadarn, ni fydd modd gwella’n sylweddol ar y sefyllfa bresennol.

“Mae cynllunio’r gweithlu hefyd yn allweddol fel bod modd sicrhau cyflenwad digonol o staff i wireddu’r uchelgais.”