Fe fydd lwfansau ariannol cynghorwyr sir a bwrdeistref Cymru yn aros yr un peth ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016/17.

Dyna y mae adroddiad diweddara’ Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn ei ddatgan.

Fe wnaeth y panel benderfynu peidio â chynyddu lwfansau’r cynghorwyr eleni oherwydd “cyfyngiadau parhaus ar wariant llywodraeth leol.”

Maen nhw’n nodi fod angen ystyried ymrwymiad amser aelodau gweithredol ymhellach.

Fe ddaeth y Panel i’r casgliad hefyd fod angen diwygio’r fframwaith ar gydnabyddiaeth ariannol – er mwyn bod yn fwy hyblyg â lefelau cyflogau swyddi gwahanol o fewn y cabinet.

Fe wnaethon nhw gyhoeddi’r penderfyniad hwn fel rhan o Adroddiad Drafft Blynyddol y Panel.

Bydd cyfle i ymgynghori ar gynigion yr adroddiad am gyfnod o wyth wythnos o heddiw ymlaen.

Cefndir

Cafodd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ei sefydlu yn 2007, ac mae’n goruchwylio Rheoliadau’r Awdurdodau Lleol, gan gynnwys lwfansau i aelodau.

Dyma’r pumed Adroddiad Blynyddol i gael ei gyhoeddi o dan gylch gwaith y Panel – a hynny yn dilyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Bellach, maen nhw â chyfrifoldeb dros aelodau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Awdurdodau Tân ac Achub Cymru a chynghorau cymuned a thref yng Nghymru.

Richard Penn yw Cadeirydd y Panel ar hyn o bryd, ond fe fydd yn rhoi’r gorau i’w rôl ddiwedd y flwyddyn hon, wedi cyfraniad o wyth mlynedd.

Yr is-gadeirydd presennol, sef John Bader fydd yn cymryd yr awenau fel cadeirydd newydd y Panel o fis Ionawr 2016 ymlaen.