Mae Lerpwl wedi diswyddo’r rheolwr Brendan Rodgers yn dilyn dechrau siomedig i’r tymor.

Collodd cyn-reolwr Abertawe ei swydd yn dilyn gornest gyfartal 1-1 yn erbyn Everton brynhawn Sul.

Daw’r newyddion lai na phum mis wedi i’r perchnogion ddatgan eu cefnogaeth yn gyhoeddus i’r Gwyddel.

Symudodd Rodgers i Lerpwl o Abertawe yn 2012.

Daeth Lerpwl o fewn trwch blewyn o ennill y gynghrair yn 2013-14, gan orffen yn ail yn y pen draw.

Mewn datganiad, dywedodd perchnogion y clwb: “Hoffem gofnodi ein diolch diffuant i Brendan Rodgers am y cyfraniad sylweddol mae e wedi’i wneud i’r clwb ac rydym yn mynegi ein diolchgarwch am ei waith caled a’i ymroddiad.

“Mae pob un ohonom wedi cael profiadau rhyfeddol gyda Brendan fel rheolwr ac rydym yn hyderus y bydd e’n mwynhau gyrfa hir yn y gamp.”

Ychwanegodd y triawd fod y penderfyniad i’w ddiswyddo’n un anodd.

“Uchelgais ac ennill sydd wrth galon yr hyn rydyn ni am ei gael yn Lerpwl ac rydym yn credu bod y newid hwn yn rhoi’r cyfle gorau i ni gael hynny.”

Fe fu cryn drafod ar ei ddyfodol ers i Lerpwl golli o 6-1 yn erbyn Stoke ar ddiwrnod ola’r tymor diwethaf.

Un o’r ffefrynnau i olynu Brendan Rodgers yw’r Almaenwr Jurgen Klopp, ac mae enw cyn-hyfforddwr Real Madrid, Carlo Ancelotti hefyd wedi’i grybwyll.

Roedd y clwb eisoes wedi annog y rheolwr i waredu ar ddau o’i hyfforddwyr, Colin Pascoe a Mike Marsh, gan benodi Sean O’Driscoll a Gary McAllister yn eu lle.

Gwariodd y clwb £80 miliwn ar chwaraewyr newydd dros yr haf, ac fe wnaethon nhw werthu Raheem Sterling i Man City am £49 miliwn.

Mae Lerpwl yn ddegfed yn yr Uwch Gynghrair, dri phwynt i ffwrdd o’r pedwerydd safle a fyddai’n sicrhau eu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf.