Llinell derfyn yr Hanner Marathon
Ben Siwa o Wganda oedd yn fuddugol yn ras Hanner Marathon Caerdydd y dynion, gan orffen mewn 62.07 o funudau.

Daeth o fewn trwch blewyn o dorri record y cwrs yn y brifddinas.

Gorffennodd y Cymro Dewi Griffiths y ras mewn 64.26 munud, gan dorri ei record bersonol i orffen yn yr ail safle.

Lenah Jerotich o Kenya ddaeth i’r brig yn ras y merched.

Cymerodd mwy na 23,000 o athletwyr ran yn y digwyddiad y bore ma, y nifer fwyaf erioed.

Dechreuodd y ras ar Stryd y Castell am 9 o’r gloch, ac fe ddechreuodd y ras cadeiriau olwyn ddeng munud yn ddiweddarach.

Daeth y ras i ben ger adeilad Coleg Cerdd a Drama Caerdydd.

Ymhlith y rhai eraill o Gymru oedd yn cymryd rhan yn y ras roedd cyn-gapten rygbi Cymru, Gareth Thomas.