Mae Heddlu Gogledd Cymru’n apelio am wybodaeth ar ôl ddyn geisio herwgipio merch 10 oed yn Acrefair ger Wrecsam.

Roedd y ferch yn cerdded trwy gae gerllaw’r briffordd i Langollen am 5pm brynhawn Iau pan ymddangosodd dyn y tu ôl iddi gan roi un llaw am ei cheg a llaw arall am ei chanol.

Llwyddodd i ddianc yn ddianaf a rhedodd adref i ddweud am y digwyddiad.

Caiff y dyn, a redodd i ffwrdd i’r cyfeiriad arall, ei ddisgrifio fel un yn gwisgo dillad du a menyg du.

Meddai’r Ditectif Brif Aroygydd Neil Harrison:
“Roedd y digwyddiad gerllaw priffordd brysur, ac rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un a allai fod wedi gweld y dyna yma neu a allai fod wedi gweld unrhyw beth amheus i gysylltu ä’r heddlu ar 101.

“Hoffwn sicrhau trigolion ein bod yn cynnal ymchwiliad trylwyr ac yn gwneud rhagor o patrôls yn yr ardal.”