Llun: Gwasanaeth Ambiwlans
Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn y penderfyniad i newid y drefn wrth gofnodi perfformiad y gwasanaeth ambiwlans.

O heddiw, am flwyddyn, fe fydd y targed i gyrraedd o fewn wyth munud yn cael ei ddileu ar gyfer pob galwad ond y rhai ‘coch’ – y rhai mwya’ difrifol.

Yn ôl y gwrthbleidiau, mae’r newid yn arwydd o fethiant y Llywodraeth i gyrraedd targedau; yn ôl y gwasanaeth ambiwlans ei hun, mae’n golygu gwasanaeth gwell, mwy hyblyg.

‘Ddim yn gweithio’

Doedd yr hen drefn ddim yn gweithio, meddai’r Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, gan fynnu nad bwriad y drefn newydd oedd osgoi beirniadaeth.

Fe fydd arolwg trylwyr o’r drefn newydd ar ddiwedd y flwyddyn, meddai.

Fe fydd y newid yn golygu bod y gwasanaeth ambiwlans yn gallu ymateb yn y ffordd orau yn hytrach na gorfod canolbwyntio ar amser, meddai Tracy Myhill, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru.

Y drefn newydd

Fe fydd y targed o gyrraedd 65% o alwadau ‘coch’ o fewn wyth munud yn aros gyda’r galwadau mwya’ argyfyngus, lle mae bywyd mewn peryg. Y disgwyl yw y bydd tua un o bob deg galwad yn y categori yma.

Fydd yna ddim targed amser ar gyfer galwadau ‘oren’ – lle gallai fod angen am driniaeth yn y fan a’r lle neu gludiant ar frys i ganolfan feddygol.

Fydd yna ddim targed amser chwaith ar gyfer galwadau gwyrdd, lle gallai’r achos gael ei drin gan wasanaethau eraill.

Yr ymateb

Pan gafodd y newidiadau eu cyhoeddi gynta’, fe ddywedodd Plaid Cymru eu bod yn “arbrawf peryglus”.

Roedd y Ceidwadwyr yn cyhuddo’r Llywodraeth o fethu â chyrraedd targedau’n gyson.

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol roedd hi’n “wleidyddol gyfleus” i’r Llywodraeth newid y drefn yn y flwyddyn cyn etholiadau’r Cynulliad.