Meri Huws, Comsiynydd y Gymraeg
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio deiseb yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau bod gan bobl hawliau i wasanaethau yn y Gymraeg yn y sector preifat.

Mae deiseb y mudiad ar wefan y Cynulliad yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno’r holl Safonau i’r Cynulliad cyn yr etholiad yn 2016, ac i ymestyn Mesur y Gymraeg i gynnwys gweddill y sector preifat.

Mae copi terfynol o Safonau’r Gymraeg yn cael ei gyflwyno i 26 o gyrff cyhoeddus heddiw er mwyn iddyn nhw gael eu derbyn yn ffurfiol.

Ar ôl heddiw, bydd gan y cyrff cyhoeddus hyd at chwe mis i baratoi cyn i’r Safonau ddod i rym ar Fawrth 26 y flwyddyn nesaf, ac fe fydd ganddyn nhw tan hynny i apelio yn eu herbyn.

Mae Mesur y Gymraeg 2011 yn rhoi’r hawl i’r Llywodraeth a’r Comisiynydd osod dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus a gwirfoddol yn ogystal â nifer o gwmnïau preifat megis cwmnïau ffôn, trafnidiaeth ac ynni.

Er hyn, yn ôl Cymdeithas yr Iaith, cadarnhaodd y Prif Weinidog na all bobl ddisgwyl hawliau iaith gan gannoedd o gyrff yn y sector preifat, fel Trenau Arriva Cymru, a Network Rail, cyn Etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai’r flwyddyn nesaf.

 

“Hepgor” 200 o gyrff o’r safonau iaith

Eleni, cafodd dros 200 o gyrff eu hepgor o’r safonau iaith, gan gynnwys cwmnïau trên a bysiau.

Mae ymgyrchwyr iaith wedi beirniadu’r Comisiynydd a’r Llywodraeth am beidio â “defnyddio’r holl bwerau sydd gyda nhw.”

“Mae’n destun pryder mawr, pum mlynedd ers i’r ddeddfwriaeth iaith gael ei basio, nad yw’r Comisiynydd na’r Llywodraeth wedi defnyddio’r holl bwerau sydd gyda nhw,” meddai Manon Elin, llefarydd Grŵp Hawl i’r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith.

“Mae cannoedd ar filoedd o bobl Cymru yn cael eu hamddifadu o wasanaethau Cymraeg sylfaenol bob dydd achos eu diffyg gweithredu.

“Cafodd Mesur y Gymraeg ei basio’n unfrydol gan y Cynulliad: drwy beidio â’i weithredu felly, mae’r Comisiynydd yn rhwystro ewyllys democrataidd pobl Cymru.”

Ymateb Dyfodol i’r Iaith

Mae Dyfodol yr Iaith wedi dweud bod “angen newid cyfeiriad sylfaenol yn sut mae’r Gymraeg yn cael ei thrin gan Lywodraeth Cymru”.

Mae’r mudiad yn lansio’i faniffesto yn y Cynulliad heddiw.

Mewn datganiad, dywedodd cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, Heini Gruffudd: “Rydyn ni’n galw am newid y pwyslais o ddeddfu i hyrwyddo’r Gymraeg.  Mae modd i ddeddfau ddiogelu hawliau, ond mae angen hwyluso’r defnydd o’r iaith yn y cartref, mewn addysg, ar y stryd ac yn y gwaith, ac mae angen gweledigaeth a phenderfyniad newydd i wneud hyn.

“Rydyn ni am weld Cymru’n mabwysiadu polisïau sydd wedi dwyn ffrwyth mewn gwledydd eraill yn Ewrop.

“Dros yr ugain mlynedd diwethaf mae’r Gymraeg wedi colli siaradwyr.  Yn yr un cyfnod mae niferoedd siaradwyr y Fasgeg wedi codi o 529,000 i 714,000. Does dim un rheswm pam na allwn ni gael yr un llwyddiant yng Nghymru.

“Does dim rheswm pam na ddylen ni fanteisio ar y profiadau gorau rhyngwladol ym maes cynllunio ieithyddol.”

Mae Dyfodol i’r Iaith am weld y pleidiau i gyd yn derbyn polisi cyffredin i hyrwyddo’r iaith. Yn ôl Dyfodol i’r Iaith, dylai’r polisi roi blaenoriaeth i dwf addysg Gymraeg, i gryfhau Cymraeg i Oedolion i ddatblygu gweithlu Cymraeg ac i hybu’r Gymraeg yn y cartref, ac i sefydlu rhwydwaith o Ganolfannau Cymraeg ledled Cymru.

“Un newid sylfaenol rydyn ni am ei weld yw creu Asiantaeth led braich a fydd yn gyfrifol am hyrwyddo’r Gymraeg ar lawr gwlad, am ddyfeisio ymgyrchoedd creadigol ac arbrofol, gwaith nad oes modd i weision sifil ei wneud yn hawdd.

“Rydyn ni hefyd am i Gomisiynydd y Gymraeg ganolbwyntio ar hyrwyddo’r Gymraeg mewn gweithleoedd, trwy wneud y Gymraeg yn iaith gwaith ac yn iaith cyfathrebu llafar.”

‘Cam sylweddol ymlaen’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi ymrwymo i gyflawni’r safonau. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, byddwn yn edrych ar ddiwygio’r Mesur i wneud y broses ar gyfer gwneud safonau yn haws i’w weithredu.

“Mater i Gomisiynydd y Gymraeg yw penderfynu pwy sy’n cael eu cynnwys yn ei hymchwiliadau safonau. Erbyn diwedd y Llywodraeth hon, bydd dros 200 o sefydliadau yn dod o dan safonau Iaith Gymraeg – sy’n gam sylweddol ymlaen.”

‘Blaenoriaeth’

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg: “Lluniodd y Comisiynydd raglen waith er mwyn bod ag amserlen o ba bryd bydd sectorau’n mynd drwy’r gwahanol gamau statudol cyn eu bod yn gweithredu safonau’r Gymraeg.

“Er mwyn bod yn agored a thryloyw, dewisodd y Comisiynydd wneud ei rhaglen waith yn gyhoeddus. Yn yr un modd, mae pob addasiad i’r rhaglen honno wedi ei gyhoeddi.

“Mae’r Comisiynydd eisoes wedi cynnal ymchwiliadau safonau, gan ymgynghori â dros 200 o sefydliadau, ac wedi cyflwyno casgliadau ymchwiliadau safonau’r ail gylch i Weinidogion Cymru.

“Caiff ymchwiliadau eu cynnal er mwyn penderfynu pa safonau ddylai fod yn benodol gymwys i’r sefydliadau a sectorau eraill ac sy’n cael eu henwi yn y Mesur.

“Gweledigaeth gadarn y Comisiynydd yw Cymru lle bydd y Gymraeg yn ganolog i fywyd bob dydd a lle gellir ei defnyddio’n gynyddol ac yn y cyd-destun hwn mae gosod safonau ar gyrff yn flaenoriaeth.

“Derbyniodd y Comisiynydd lythyr gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ddiweddar, a bydd yn ymateb i’r llythyr maes o law.”