Gareth Bale
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau eu bod bellach wedi gwerthu pob un o’u tocynnau ar gyfer y gêm ragbrofol Ewro 2016 yn Bosnia yr wythnos nesaf.

Dim ond 725 tocyn gafodd Cymru ar gyfer y gêm yn Zenica ar 10 Hydref fydd yn cael ei chwarae mewn stadiwm sydd yn dal 13,500 o bobl.

Roedd hynny wedi golygu mai dim ond y rheiny oedd wedi bod yn aelodau o glwb y cefnogwyr am o leiaf dwy ymgyrch, yn ogystal â mynd i bedair o’r wyth gêm oddi cartref diwethaf, oedd yn gymwys am docyn.

Mae’n golygu bod nifer o gefnogwyr sydd eisoes wedi trefnu i deithio yno’n wynebu peidio â gallu mynd i’r gêm, ac yn debygol o orfod aros yn Sarajevo i’w gwylio mewn bariau yn lle hynny.

Un pwynt arall

Dim ond pwynt sydd ei angen ar Gymru o’u dwy gêm olaf, yn erbyn Bosnia ac yna gartref yn erbyn Andorra tridiau yn ddiweddarach, i sicrhau eu lle yn Ewro 2016 yn Ffrainc.

Fe fydd Chris Coleman, sydd yn enwi’i garfan dydd Iau, yn obeithiol fod Gareth Bale yn ffit ar gyfer y ddwy gêm wedi i ymosodwr Real Madrid ddechrau ymarfer eto ar ôl anafu croth y goes.

Mae chwaraewyr fel Joe Allen, Joe Ledley, Emyr Huws, Jonny Williams a George Williams hefyd yn holliach ar ôl methu’r ddwy gêm ddiwethaf yn erbyn Cyprus ac Israel.

Fodd bynnag mae Dave Edwards, Jazz Richards ac Adam Matthews ymysg y chwaraewyr sydd dal ag anafiadau ac yn debygol o fethu’r gemau.

Mae gan Bosnia broblemau anafiadau eu hunain, fodd bynnag, gyda’u capten a’u prif ymosodwr Edin Dzeko allan o’r gêm yn Zenica.

Gwahardd cefnogwr

Mae Cymru eisoes wedi gwerthu pob un o’r 33,000 tocyn ar gyfer y gêm gartref honno yn erbyn Andorra yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 13 Hydref fydd yn cloi eu hymgyrch ragbrofol Ewro 2016.

Un cefnogwr fydd ddim yn cael mynychu’r gêm fodd bynnag yw Matthew Aaron Yorwerth, sydd yn 30 oed ac o Wrecsam, a hynny am ei fod newydd dderbyn gwaharddiad o wylio pêl-droed am dair blynedd.

Roedd Matthew Yorwerth yn un o gefnogwyr Cymru redodd ar y cae i ddathlu yng ngêm agoriadol yr ymgyrch oddi cartref yn Andorra, pan sgoriodd Gareth Bale gôl hwyr i gipio’r fuddugoliaeth.

Mae bellach wedi cael ei wahardd rhag mynychu unrhyw gemau pêl-droed ym Mhrydain am dair blynedd, ac mae’n rhaid iddo ildio’i basbort unrhyw bryd y bydd Cymru’n chwarae oddi cartref.

Cafodd Cymru ddirwy o £4,000 yn dilyn y digwyddiad ond maen nhw wedi cael eu rhybuddio y gallan nhw gael eu cosbi’n llawer llymach, gan gynnwys colli pwyntiau, os yw hynny’n digwydd eto.

Cyn y gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Israel roedd rhybuddion yn y stadiwm yn galw ar gefnogwyr Cymru i gadw oddi ar y cae petai’r tîm yn ennill ac yn sicrhau eu lle yn Ewro 2016.