Canol Caerdydd
Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi dweud y bydd yn cymryd “camau cadarn” yn dilyn beirniadaeth bod rhai gyrwyr tacsis yn y brifddinas wedi gwrthod cymryd teithiau ‘rhy fyr’.

Daw hyn ddyddiau yn unig ar ôl tri ymosodiad rhyw difrifol yng nghanol y ddinas o fewn pum diwrnod i’w gilydd.  Roedd gyrwyr tacsis yn y brifddinas wedi sicrhau pobl na fyddan nhw’n gwrthod eu cludo yn ôl adre oherwydd bod y daith yn rhy fyr.

Ond mae’r Cyngor bellach am glywed gan bobl sydd wedi cael eu gwrthod gan yrwyr tacsis yng Nghaerdydd. Maen nhw’n gofyn i bobl gofnodi rhif y gyrrwr/tacsi, y dyddiad, amser a lleoliad ac e-bostio trwyddedu@caerdydd.gov.uk .  Mae’r cyngor yn dweud y bydd yn gweithredu ar ôl cael gwybod.

“Ein neges (i yrwyr tacsis) yw peidio â gwrthod na chodi gormod (o arian) ar deithwyr. Mae’n torri eich trwydded ac, os cawn wybod, byddwn yn ymchwilio i’r mater ac yn cymryd camau cadarn yn eich erbyn,” meddai’r Cynghorydd Daniel De’Ath, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Drwyddedu.

Yn ôl y Cyngor, mae ei swyddogion hefyd wedi bod yn cysylltu â chwmnïau tacsis heddiw yn gofyn iddyn nhw ddiogelu pobl sy’n agored i niwed yn dilyn yr ymosodiadau yn y ddinas.

Pryderon merched y ddinas

Mae rhai merched ifanc sy’n byw yn y ddinas yn dweud eu bod yn ofni gorfod cerdded nôl adref ar ôl bod allan gyda’r nos, a bod gyrwyr tacsis yn anfodlon eu cludo nôl.

“Mae e wir yn anodd cael tacsi, yn enwedig ar ôl bod mas, mae angen begio ar y gyrwyr i’n cymryd ni,” meddai Mia Peace, sy’n fyfyrwraig 19 oed yn y ddinas.

“Er bod y ranc yn llawn o dacsis, cefais fy ngwrthod gan bob un. Er i mi drio egluro fy mod i’n ferch ifanc a fyddai’n rhoi ei hun mewn perygl yn ceisio cerdded adref ar ben fy hun, yr ateb a gefais oedd ‘not my problem’, sy’n gwbl warthus,” meddai Ffion Parrington, 24 oed, wrth sôn am ei phrofiadau o geisio cael tacsi yn y nos.

“Roedd yn rhaid i fi gerdded nôl i Dreganna (rhyw 20 munud o ganol y ddinas) am tua 2 y bore ar fy mhen fy hun,” meddai Yasmin Morris, 23 oed.

“Yn y diwedd, pan oedden i tua hanner ffordd adref, mi wnes i stopio tacsi a gofyn am lifft, roedd rhaid i fi dalu £15 neu byddan nhw ddim wedi mynd â fi – mae tacsi’n £5 fel arfer o ganol y ddinas, ond nes i gytuno achos ro’n i’n teimlo’n ofnus yn cerdded ar fy mhen fy hun.”

Prifysgolion y ddinas yn cyhoeddi mesurau diogelwch

Mewn datganiad ar y cyd rhwng Heddlu De Cymru, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, y Coleg Cerdd a Drama a Chyngor y Ddinas, maen nhw wedi cyhoeddi ymateb i’r ymosodiadau a’r honiadau yn erbyn y gyrwyr tacsi drwy gyflwyno sawl mesur diogelwch.

“Mae tri bws i fyfyrwyr, sy’n cael eu staffio gan yr heddlu a gwirfoddolwyr, yn rhedeg gyda’r nos er mwyn sicrhau trafnidiaeth fwy diogel i fyfyrwyr,” meddai’r datganiad.

“… ac mae’r Undebau Myfyrwyr wedi bod yn gweithio gyda chwmnïau tacsi Caerdydd i sicrhau bod gyrwyr yn mynd a’u teithwyr nôl adref yn ddiogel.”

Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd hefyd yn rhedeg cynllun tacsis diogel sy’n galluogi myfyrwyr a staff i gael lifft gan gwmni Dragon’s Taxis Caerdydd hyd yn oed os nad oes arian ganddyn nhw ar y pryd, cyhyd a bod ganddyn nhw gerdyn myfyrwyr neu staff.

‘Trafod y pryderon’

Wrth ymateb i’r pryderon dywedodd Prif Uwch-arolygydd Heddlu’r De, Belinda Davies: “Rwy’n ymwybodol o’r pryderon sydd wedi cael eu gwneud yn y cyfryngau ac ar gyfryngau cymdeithasol o ran amharodrwydd rhai gyrwyr tacsis i fynd â phobl ar deithiau byrrach yn y ddinas.

“Yng Nghaerdydd, mae gennym draddodiad cryf o weithio gyda’n gilydd i gadw ein dinas yn ddiogel a byddaf yn trafod y pryderon hyn gyda’r awdurdod lleol a’r awdurdod trwyddedu tacsis i fynd i’r afael â’r mater hwn.