Leanne Wood
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud bod sicrhau awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru yn ‘hanfodol’ os yw cam nesaf datganoli am weithio er budd Cymru.

Daw sylwadau Leanne Wood ar ôl i adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ac Uned Gyfansoddiadol Coleg Prifysgol Llundain nodi nad yw cynlluniau presennol San Steffan ar gyfer datganoli i Gymru yn ‘glir, cadarn na pharhaol’, ac y byddai’n ‘gadael problemau cyfansoddiadol sylweddol heb eu datrys’.

O dan gynlluniau Llywodraeth Prydain, ni fydd y system gyfreithiol yn cael ei ddatganoli.

“Ni all proses ddatganoli Cymru barhau ar hyd y trywydd truenus hwn,” meddai Leanne Wood.

“Flynyddoedd ar ôl cyhoeddi Adroddiadau Silk, fisoedd ar ôl i Broses Dydd Gwyl Dewi ddirwyn i ben, mae ein gwlad wedi ei gadael mewn diffeithwch cyfansoddiadol.

“Sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru yw’r ffordd orau o sicrhau eglurder, i lywodraethiant effeithiol, i’r llysoedd, ac i’n dinasyddion.

Pwerau i’r Alban a Gogledd Iwerddon, ond nid i Gymru

Yn yr adroddiad, mae’r awduron yn gofyn pam fod Llywodraeth y DU wedi osgoi rhoi nifer o’r cyfrifoldebau sydd wedi’u trosglwyddo i’r Alban a Gogledd Iwerddon i Gymru.

“Ar rai materion, mae’r arbenigwyr wedi cwestiynu a yw’r penderfyniadau i atal cyfrifoldeb mewn rhai meysydd wedi eu hysgogi gan ‘ddewisiadau gwleidyddol byrdymor’ yn hytrach na buddiannau hirdymor pobl Cymru a’r Deyrnas Gyfunol,” meddai Leanne Wood.

“Mae adroddiad heddiw hefyd yn adlewyrchiad o ddiffyg arweinyddiaeth Llywodraeth Lafur bresennol Cymru a’i anallu i amddiffyn Cymru.

“Mae Plaid Cymru yn benderfynol o arwain Llywodraeth Gymreig newydd o fis Mai fydd yn mynnu parch gan San Steffan.”