Mae Cyfarwyddwr Cyfathrebu Comisiynydd y Gymraeg, Gwyn Williams wedi cael ei benodi’n Gyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymwneud S4C.

Mae’n enw adnabyddus ym maes darlledu eisoes, yn gynhyrchydd a chyfarwyddwr amryw gyfresi megis Hel Straeon ar ddiwedd y 1980au a darllediad byw o Ras yr Wyddfa yn 2005.

Fe fu’n Brif Weithredwr cwmni Barcud yng Nghaernarfon o 2007 i 2010, ac roedd yn un o sylfaenwyr Cwmni Da.

Yn ystod y 1990au, roedd yn un o sylfaenwyr y cwmni cynhyrchu annibynnol FiTi-TiFi, oedd yn creu rhaglenni ffeithiol a rhaglenni i blant.

Ym maes newyddion, fe fu’n gyfarwyddwr Newyddion BBC Cymru, ac mae e wedi gweithio’n llawrydd i’r BBC a chwmnïau annibynnol.

Yn swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, roedd Gwyn Williams yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu, Hybu a Gweinyddu.

Bydd yn dechrau ar ei swydd newydd gydag S4C ym mis Tachwedd.

‘Heriau sylweddol’

Mewn datganiad, dywedodd Gwyn Williams; “Ar ôl dros dair blynedd hapus a chyffrous iawn gyda Chomisiynydd y Gymraeg, rwy’n edrych ymlaen at her newydd gydag S4C.

“Dyma sector dwi’n deall yn dda, ond yn gwybod hefyd fod heriau sylweddol yn wynebu S4C fel nifer o ddarlledwyr cyhoeddus eraill dros y blynyddoedd nesaf.

“Bydd cael gweithio gyda’r tîm brwdfrydig yn S4C ar gyfnod anturus yn fraint.

“Rhaglenni da yw corff ac enaid y sianel ac mae’r cyfle i gydweithio gyda chynhyrchwyr talentog yn un o’r pethau rwy’n edrych ymlaen ato fwyaf.”

‘Profiad yn allweddol’

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: “Llongyfarchiadau i Gwyn Williams ar ei benodiad i’r swydd newydd hon.

“Yn ogystal â phrofiad lefel uchel yn y byd cyfathrebu a hyrwyddo, mae Gwyn yn adnabod y byd darlledu yn dda, ac mi fydd y profiad yma yn allweddol iddo yn y rôl newydd hon gyda S4C.

“Rwy’n edrych ymlaen at ei groesawu i blith y staff yn fuan ac i gyd-weithio’n agos ag ef mewn cyfnod sy’n frith o heriau i S4C.

“Bydd ei brofiad yn werthfawr i’r sianel yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.”