Huw Stephens
Y cyflwynydd Radio 1, Huw Stephens, fydd cwis feistr  rhaglen newydd ar S4C.

Dyma’r tro cyntaf i Huw Stephens, sy’n wreiddiol o Gaerdydd, fod yn gwis feistr ar raglen deledu.

Bydd y rhaglen gwis, Rhestr, sy’n cael ei darlledu ar S4C nos Iau, yn cynnig cyfle i’r cystadleuwyr a’r gwylwyr ennill hyd at £1,000 ym mhob pennod.

Wrth drafod ei rôl newydd dywedodd Huw Stephens: “Dw i wedi bod ar gwpl o gwisiau ar y teledu o’r blaen. Johnny Cash oedd fy mhwnc arbenigol ar Mastermind Cymru, a John Peel ar y Mastermind BBC 1. Ond nes i ddim neud yn arbennig o dda y ddau dro,” meddai wrth esbonio ei ddiddordeb mawr mewn cwisiau.

“Dw i  wedi bod ar Pointless cwpl o weithiau hefyd. Roedd hynny’n lot o hwyl ond mae’n lot fwy anodd na gwylio fe ar y teledu yn gweiddi ar y cystadleuwyr. Dyna pam ei bod hi’n braf gallu holi’r cwestiynau heb y pwysau o orfod ateb nhw,” esboniodd.

Wrth edrych ymlaen at y gyfres, fe ddywedodd Huw Stephens ei fod yn gobeithio nad yw “yn gyflwynydd rhy gas, a mod i’n gofyn y cwestiynau mor glir ag sy’n bosib fel bod cyfle da gyda phawb i ennill yr arian.”

Rhestrau

Bydd gofyn i dimau o ddau ddewis yr atebion cywir allan o’r gwahanol restrau sy’n cael eu dangos i’r cystadleuwyr yn y stiwdio.

Bydd y pâr sy’n ennill y mwyaf o bwyntiau yn mynd ymlaen i wynebu’r ‘rhestr fawr’ gan ennill £200 am bob ateb cywir – a hynny’n arwain at £1,000 posib.

Ar ddiwedd bob rhaglen, bydd cyfle hefyd i’r gwylwyr ennill gweddill yr arian.

Bydd ateb cwestiwn y gwylwyr yn cael ei roi ar raglen Heno ar y nos Iau ddilynol, a gall y gwylwyr hefyd chwarae drwy lawrlwytho ap Rhestr ar declyn symudol.

Bydd y rhaglen gyntaf o Rhestr yn dechrau nos Iau am 8:25yh, 24 Medi.

Y tri phâr sy’n cystadlu ar y rhaglen gyntaf yw Andrew Parker o Benygroes a Colin Barker o Gaernarfon; Heulwen Jones a Nerys Morris o Lanybydder ac Ioan Gwyn a Deio Rhys Withers o Lanfairpwll.