Alesha O'Connor a Rhodri Miller
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi dod i’r casgliad nad oes digon o dystiolaeth i erlyn saith o ddynion a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â damwain ar yr A470 pan gafodd pedwar o bobl eu lladd.

Bu farw Alesha O’Connor, 17, Rhodri Miller, 17, Corey Price, 17, a Margaret Challis, 68, yn y gwrthdrawiad ger y Storey Arms ym Mannau Brycheiniog ar 6 Mawrth.

Y gred yw bod Rhodri Miller wedi bod yn gyrru car Volkswagen Golf gwyrdd, gydag Alesha O’Connor a Corey Price yn deithwyr – pan fu mewn gwrthdrawiad a  VW Golf du Margaret Challis.

Dywedodd yr heddlu bod car y bobol ifanc yn un o res o geir oedd yn cael eu gyrru “mewn confoi”.

Cafodd ymchwiliad ei lansio gan Heddlu Dyfed Powys a chafodd saith o ddynion eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Ond mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi dweud nad oes digon o dystiolaeth i sicrhau dyfarniad yn erbyn y saith am droseddau’n ymwneud ag achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus neu achosi marwolaeth drwy yrru’n esgeulus.

Ni fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd ac mae’r achos wedi’i gyfeirio at y crwner.

Mae teuluoedd y rhai fu farw wedi cael eu hysbysu am y datblygiadau, meddai’r heddlu.