Mae Prifysgol Y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi fod pennaeth yr Urdd Efa Gruffudd Jones MBE wedi cael ei phenodi’n Brif Weithredwr newydd ar y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.

Yn gynharach eleni fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru mai’r Drindod fyddai bellach yn gyfrifol am faes Cymraeg i Oedolion, ac mae swydd newydd Efa Gruffudd Jones yn rhan o’r datblygiad hwnnw.

Mae’n golygu y bydd Efa Gruffudd Jones yn gadael ei swydd fel Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, ble mae hi wedi bod ers dros ddeng mlynedd.

Fe fydd pennaeth y mudiad ieuenctid yn dechrau ei swydd newydd yn ffurfiol yn y flwyddyn newydd, ond yn y cyfamser fe fydd hi’n cyfrannu at y broses o benodi tri chyfarwyddyd i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.

‘Pennod newydd’

“Mae’r bennod newydd hon yn un sy’n gofyn am newid radical ac am arweinydd sy’n gallu rheoli’r newid hwnnw mewn modd sensitif a chadarn,” meddai Gwilym Dyfri Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Cysylltiol y Brifysgol.

“Fel Prif Weithredwr un o fudiadau Cymraeg amlycaf Cymru, mae Efa yn unigolyn uchel iawn ei pharch ac mae’r Brifysgol yn falch iawn o allu cyhoeddi ei phenodiad i swydd sy’n gwbl bwysig i ddatblygiad a dyfodol yr iaith Gymraeg.”

Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones, a dderbyniodd MBE llynedd am ei gwasanaeth i blant a phob ifanc, ei bod hi’n edrych ymlaen at yr her.

“Mae yna gytundeb cenedlaethol bod angen i’r maes Cymraeg i Oedolion newid ac mae’r cyfle i sefydlu corff cenedlaethol o’r newydd fydd yn arwain ar y gwaith yn un arbennig iawn,” meddai Efa Gruffudd Jones.

“Rwy’n croesawu’r her yn fawr ac yn edrych ymlaen at gydweithio gyda holl bartneriaid y maes er lles dyfodol y Gymraeg er mwyn cynyddu nifer y dysgwyr a sicrhau bod mwy o ddysgwyr yn dod yn rhugl.”