Mae adroddiad gan Gomisiynydd y Gymraeg wedi dod i’r casgliad bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi torri ei gynllun iaith ei hun.

Cafodd yr ymchwiliad ei sefydlu yn dilyn cwyn gan aelod o’r cyhoedd ynghylch gohebiaeth uniaith Saesneg mewn perthynas ag apwyntiad yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Daeth y Comisiynydd i’r casgliad fod yr achos yn deilwng o ymchwiliad statudol o dan amodau Adran 17 Deddf Iaith 1993.

Yn yr adroddiad, dywed y Comisiynydd fod y bwrdd iechyd wedi methu â chydymffurfio â dau gymal yn y Cynllun Iaith.

Dywedodd nad yw’r bwrdd iechyd yn gohebu’n ddwyieithog pan nad yw dewis iaith y claf yn hysbys, a dydy’r bwrdd ddim yn anfon llythyrau dwyieithog safonol at gleifion fel mater o drefn.

Mae’r Comisiynydd wedi gwneud tri argymhelliad i’w gweithredu o fewn amserlen pendant, sef:

  • anfon gohebiaeth i gleifion neu unigolion eraill yn eu dewis iaith pan fo’r dewis hwnnw’n hysbys iddo o ganlyniad i sgwrs, gyfarfod neu ohebiaeth arall;
  • anfon gohebiaeth ddwyieithog pan na fo dewis iaith y derbynnydd yn glir;
  • anfon gohebiaeth gyffredinol a ddechreuir gan ganddo, megis llythyrau apwyntiad safonol, yn ddwyieithog.