Mae cwmni RWE Innogy UK wedi ailgyflwyno cais i godi fferm wynt ym Mynydd y Gwair, Felindre ger Abertawe.

Bwriad y cwmni yw codi 16 o dyrbeini gwynt ar y safle, ac mae’r prosiect werth £52 miliwn.

Ond, er i’r prosiect gael cefnogaeth ym mis Chwefror 2013, fe wnaeth y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, rwystro’r datblygiad wedi adroddiad gan yr arolygwr cynllunio ar 26 Mehefin 2015.

Mae’r cwmni bellach wedi ailgyflwyno’r cais, gan roi sylw i gyfreithiau’r tir comin fel rhan o’r broses.

Bydd y cais diwygiedig yn cael ei ystyried yn awr yn ystod cyfnod o ymgynghori am 28 diwrnod.

Pwnc llosg

Yn ôl y cwmni, mae astudiaeth annibynnol yn dangos y gallai datblygiad Mynydd y Gwair greu hyd at 104 o swyddi yn ystod bob blwyddyn o’r gwaith adeiladu.

Gallai’r safle wedyn greu 19 o swyddi eraill a bod yn werth £1.2m y flwyddyn i economi Cymru.

Ond, mae ymgyrchwyr lleol yn poeni y bydd y datblygiad yn amharu ar harddwch naturiol ardal Mynydd y Gwair.

Petai’r cynllun yn cael ei gymeradwyo, gallai’r fferm wynt hon fod y fferm wynt fwya’ ar y tir  i gael ei gweithredu o fewn ardal yr awdurdod lleol.