Richard Harrington yn Y Gwyll
Bydd dwy bennod gyntaf cyfres newydd, Y Gwyll/Hinterland yn cael eu dangos am y tro cyntaf i gynulleidfa fechan yng nghanolfan Chapter, Caerdydd heno.

Dyma fydd y cyfle cyntaf i weld y bennod gyntaf, cyn iddi gael ei darlledu ar deledu am y tro cyntaf ar S4C, am 9.00 nos Sul 13 Medi.

Mae’r noson yn rhan o ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal ar draws y wlad ar y cyd rhwng S4C a BAFTA Cymru fel rhan o’u hymrwymiad i gynnig rhagor o gyfleoedd i’r cyhoedd fod yn rhan o’u gweithgareddau.

Mae’r noson yn Chapter yn cynnwys sgwrs gyda’r prif actorion, Mali Harries a Richard Harrington, un o gynhyrchwyr y gyfres Ed Thomas ac un o’r cyfarwyddwyr Gareth Bryn.

Bydd cyfle hefyd ym mis Hydref i weld dangosiad o’r ddrama newydd gan S4C, Dim Ond y Gwir yng Nghaernarfon.

‘Cyflwyno mwy o Gymraeg’ i aelodau BAFTA Cymru

Yn ôl Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru, mae 34% o’u digwyddiadau yn cael eu cynnal y tu hwnt i Gaerdydd, a chanran helaeth o’r rheini yn y Gymraeg.

Ond mae’r dangosiadau hyn yn rhan o gynllun BAFTA Cymru i ‘gyflwyno mwy o Gymraeg i’w haelodau a chynnig mwy o gyfleoedd ledled Cymru’.

“Un o elfennau mwyaf cyffrous y bartneriaeth newydd hon yw gallu cynnig rhagor o gyfleoedd i’r cyhoedd i weld ein rhaglenni cyn iddynt gael eu darlledu ar y sianel, yn ogystal ag edrych am gyfleoedd i fagu sgiliau a thalentau yn y diwydiant,” meddai Catrin Hughes Roberts, Cyfarwyddwr Partneriaethau S4C.

Gallwch gael tocynnau i fynd i’r dangosiad drwy gysylltu â chanolfan Chapter ar 029 2030 4400 neu ar eu gwefan http://www.chapter.org/