Cefnogwyr rygbi Cymru
Fe allai cefnogwyr Cymru fod yn gwario dros £5,500 i ddilyn eu tîm yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd dros y mis nesaf – gyda dros hanner y gost honno’n mynd ar docynnau ar gyfer y gemau.

Gallai’r cefnogwyr rygbi selog sydd eisiau dilyn tîm Warren Gatland mewn steil drwy gydol y gystadleuaeth ddisgwyl gwario £2,395 ar docynnau,  £1,713 ar lety, £406 ar drafnidiaeth a £502 ar fwyd a diod yn ystod y cyfnod.

Byddai teithio o gwmpas y ddinas ar ddiwrnod y gemau hefyd yn ychwanegu £387 at y gost, gyda £200 hefyd yn mynd ar grysau, sgarffiau a hetiau.

Hyd yn oed i’r cefnogwr llai cefnog fyddai’n dymuno dewis yr opsiynau rhataf, fe allai dilyn Cymru i bob gêm hyd at y ffeinal gostio cyfanswm o £1,181.

Opsiynau rhatach

Mae’r cyfanswm gwariant o £5,603, sydd wedi cael ei amcangyfrif gan gwmni costau teithio GoEuro, yn seiliedig ar dîm Cymru’n chwarae saith gêm a chyrraedd y ffeinal, gyda’r cefnogwr yn gwario ar yr opsiynau drytaf o ran llety, trafnidiaeth a bwyd.

Gallai dewis opsiynau rhatach o ran gwestai, teithio ar fysus yn lle trenau, ac osgoi bwytai drud olygu bod y gost honno’n disgyn yn sylweddol i ychydig dros fil o bunnau.

Byddai teithio yn costio £163, llety yn £139, bwyd a diod yn £198, trafnidiaeth yn y ddinas yn £61 a chrys answyddogol yn £25 petai cefnogwyr yn dewis mynd am yr opsiwn rhad.

‘Hwb economaidd’

Dangosodd y ffigyrau hefyd y byddai prynu’r tocynnau drytaf ar gyfer pob gêm yn golygu cyfanswm o £2,395, gyda chyfanswm y tocynnau rhataf yn dod i £595 – a hynny wedi’u prynu gan ffynonellau swyddogol, nid towtiaid fyddai’n debygol o ofyn am lawer mwy.

Bydd Cymru’n chwarae dwy o’u gemau grŵp yn erbyn Uruguay a Fiji yng Nghaerdydd, gyda’r ddwy arall yn erbyn Awstralia a Lloegr yn Llundain, ac unrhyw gemau pellach hefyd ym mhrifddinas Lloegr.

Yn ddiweddar fe amcangyfrifodd yr un cwmni y byddai Caerdydd yn cael hwb economaidd o £75m o gynnal wyth o gemau’r gystadleuaeth, fydd yn cael ei chynnal dros y ddeufis nesaf.