Mae rhai o uwch swyddogion yr heddlu wedi mynegi eu pryder am doriadau newydd i gyllidebau’r heddlu a allai arwain at amrywiaethau “dramatig a pheryglus” yn y gwasanaethau a gynigiant.

Bydd trefniadau cyllido newydd y Swyddfa Gartref yn effeithio ar y gwasanaeth heddlu erbyn 2020, yn ôl rhai o’r uwch swyddogion.

Ond, fe ddywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref nad oes dim penderfyniadau wedi’u gwneud ynglŷn â chyllideb yr heddlu y tu hwnt i’r flwyddyn ariannol hon.

‘Problem i bawb’

Fe wnaeth Irene Curtis, Prif Arolygwr Undeb Arolygwyr yr Heddlu dros Gymru a Lloegr rybuddio’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, am effaith y toriadau posib hyn.

“Mae hon yn broblem y mae angen i bawb ei hwynebu”, meddai.

Dywedodd y bydd y toriadau hyn yn effeithio’n bennaf ar y sector gyhoeddus a’r cyhoedd oherwydd “nhw, wedi’r cwbl sy’n derbyn gwasanaethau’r heddlu”.

Y gred yw y gallai maint lluoedd yr Heddlu yng Nghymru a Lloegr ddisgyn yn is na 100,000 erbyn diwedd y ddegawd hon.

Mae Undeb Comisiynwyr yr Heddlu a Thrais wedi cyhoeddi dadansoddiad yr wythnos diwethaf sy’n amlygu effeithiau’r toriadau ar y gwasanaethau dros y bum mlynedd nesaf.

Am hynny, mae Irene Curtis wedi galw ar y Llywodraeth i ailystyried sut mae’r gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyllido a’u gweithredu.

Ymateb y Gweinidog dros Blismona

Mewn ymateb i’r pryder, fe ddywedodd y Gweinidog dros Blismona, Mike Penning nad oes “dim dwywaith fod gan yr heddlu’r adnoddau i barhau â’u gwaith hollbwysig”.

“Yr hyn sy’n bwysig nawr”, meddai, “yw sut y mae’r swyddogion a’r staff yn cael eu trefnu, nid faint ohonyn nhw sydd”, ychwanegodd.

“Mae’r newidiadau y mae’r Llywodraeth wedi’u gwneud ers 2010 wedi sicrhau ei bod hi’n haws i’r heddlu wneud eu gwaith”.

Aeth Mike Penning yn ei flaen i esbonio fod swm y fiwrocratiaeth wedi’i leihau, bod targedau diangen wedi’u diddymu a bod gan swyddogion bellach fwy o ryddid i ddefnyddio’u barn broffesiynol.