R Alun Evans
Mae cyn-ddarlledwr gyda’r BBC yn dweud y dylid dangos delweddau mwy graffig o ryfel a’i effeithiau yn y wasg a’r cyfryngau, er mwyn i’r cyhoedd weld canlyniadau gweithredu milwrol.

Dyna haeriad Llywydd Undeb yr Annibynwyr, y Parchedig R Alun Evans, wedi i lun o gorff marw bachgen bach ar ffo o’r enw Aylan Kurdi fynd yn feiral ar y We.

Dywedodd R. Alun Evans fod y lluniau hyn yn creu adwaith debyg i ddelweddau eiconig yn ystod rhyfel Fietnam: “Mae’n ymddangos ei fod yn cael yr un effaith ar y farn gyhoeddus â’r ddelwedd eiconig o Phan Thj Kim Phúc, y ferch ifanc yn rhedeg i lawr y ffordd ar ôl cael ei llosgi gan napalm yn ystod rhyfel Viet Nam.”

Delweddau wedi eu saniteiddio

“Mae’r delweddau o faes y gad a welir ar y cyfryngau ym Mhrydain wedi’u saniteiddio,” yn ôl R. Alun Evans.

“Nid yw pobl yn gweld y cyrff drylliedig yn ddarnau yn sgîl bom yn ffrwydro neu ar ôl ymosodiad o’r awyr. Petai nhw’n gweld hynny, efallai byddai’r farn gyhoeddus wedi ffrwyno llywodraeth Prydain cyn iddi weithredu’n filwrol mewn gwledydd fel Libya, Irac ac Afghanistan.”

Y gwir

Mae’n honni fod y gwir yn cael ei anwybyddu mewn rhyfeloedd: “Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, dywedodd David Lloyd George wrth un newyddiadurwr: ‘petai bobl ond yn gwybod y gwir fe fyddai’r rhyfel ar ben yfory; felly, rhaid iddyn nhw beidio â gwybod y gwir’.

“Mae’n ddyletswydd ar gyfryngau newyddion i ddangos a dweud y gwir wrth bobl. Ar ôl gweld y gwir ar draeth yn Nhwrci, mae pobl eisoes yn adweithio gyda chydymdeimlad a thosturi mawr ac yn mynnu bod Llywodraeth Prydain yn gweithredu i helpu’r ffoaduriaid truenus hyn.”