Cymru yng Nghiprys neithiwr
Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru yn galw ar y cefnogwyr i wneud “cyn gymaint o dwrw ag ydach chi eisiau” yn ystod y gêm yn erbyn Israel b’nawn Sul.

Bydd yr ornest yng Nghaerdydd yn “her fawr” yn ôl Chris Coleman, ac mae “amheuon  mawr” am ffitrwydd Joe Ledley ar gyfer y gêm.

Fe gipiodd Cymru’r triphwynt yn erbyn Cyprus neithiwr o 1-0 diolch i beniad nerthol Gareth Bale o groesiad hyfryd Jazz Richards yn dilyn pas glyfar gan Aaron Ramsay.

Bu golwg360 yn holi’r garfan yn syth ar ôl y gêm yn Nicosia.

Meddai’r rheolwr Chris Coleman: “Roeddwn i’n gwbod byddai’n rhaid i ni gwffio am hon, ac mi wnaeth y chwaraewyr lwyddo i wneud hynny.

“Ynglyn â’r gêm ddydd Sul, fy neges i’r cefnogwyr gwych sydd gynnon ni yw i wneud cyn gymaint o dwrw ag ydach chi eisiau ac i barhau i ddisgwyl y gorau ganddon ni ac mi fyddwn yn ymdrechu  i wireddu’r disgwyliadau yna.

“Mae ein cefnogwyr wedi aros yn hir iawn am hyn, ond mae’r gêm ddydd Sul yn her fawr i ni ac mae’n rhaid i ni fynd a derbyn yr her yna a ffeindio ffordd o lwyddo.

“Mae yna amheuon mawr dros ffitrwydd Joe Ledley ac o bosib James Chester ar gyfer y gêm, ond does yna ddim dweud hefo Joe ar y funud.”

Capten Cymru – “gêm anodd iawn”

Meddai Ashley Williams: “Roedd hon yn gêm anodd iawn ond mae o’n dangos eto bod y gallu gynnon ni i ymdopi efo hynny trwy ffeindio ffordd arall o ennill.

“Roedd yn rhaid i ni ymdrechu’n galed iawn oherwydd yr anafiadau a’r ffaith bod rhai o’r chwaraewyr  ddim yn gwbl ffit ac yn dioddef o fân anafiadau, ond y ffocws rwan ydi i baratoi am Israel. Dyna’r oll.”

Jazz Richards: “Wnaethon ni weithio’n galed eto heno ond mae’n bwysig ein bod yn ailadrodd hynny yn y gêm nesaf. Mae ein perfformiadau yn seiliedig ar ein cryfder amddiffynnol, oherwydd fel rydym ni’n gwybod, os ydan ni’n rhwystro’r tȋm arall rhag sgorio, mae gennym y chwaraewyr i sgorio yn erbyn unrhyw dȋm.”

David Edwards: “Waethon ni ddim chwarae’r pêl-droed gorau, ond y prif beth oedd ein bod yn anodd i’n curo. Mi oedd y tactegau’n wych gyda pherfformiad proffesiynol iawn eto heno.”

Ben Davies: “Mae’n ganlyniad enfawr i ni, ond ella nid oedd y perfformiad delfrydol ond mi’r ydan ni wedi cwffio am y canlyniadau yma a dyna be wnaethon ni heddiw. Fe wnaeth y tȋm lwyddo i greu cyfleoedd da ar adegau, ac o bosib y dyle ni fod wedi cymryd mwy o’r cyfleoedd. Ond y dasg heno oedd i ddod allan i fama a chael y canlyniad.”

Is-hyfforddwr Cymru, Osian Roberts: “Rydym wedi dod yma, gan ddangos dewrder i chwilio am y tri phwynt. Mae’r hogia’ wedi bod yn bositif trwy’r adeg, ac wedi gweithio’n eithriadol o galed, gan ddangos cymeriad ac ysbryd, mewn lle anodd iawn. Mae’n anodd iawn i gadw chwaraewyr fel Aaron a Gareth yn ddistaw am gêm gyfan, mae hynny bron yn amhosib, a dyna’r gallu sydd ganddyn nhw. Ond be’ sy’n rhaid i bobl sylweddoli am y ddau yma ydi pa mor galed y maen nhw yn gweithio i’r tȋm hefyd, gyda phob chwaraewr yn gweithio mor galed ymhob sefyllfa, dyna pam mai dim ond dwy gôl yr ydym wedi eu hildio trwy’r ymgyrch, a dim un trwy chwarae agored.”

Cyfweliadau: Jamie Thomas