Mae prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland wedi enwi’r chwaraewyr fydd yn herio’r Eidal yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn yn eu gêm baratoadol olaf cyn Cwpan y Byd.

Bydd y gic gyntaf am 5 o’r gloch.

Mae’r blaenasgellwr Sam Warburton yn dychwelyd i arwain y tîm am y tro cyntaf ers iddo anafu ei ysgwydd fis diwethaf.

Er gwaetha’r ffaith fod Gatland eisoes wedi enwi’r garfan o 31 fydd yn cystadlu yng Nghwpan y Byd, mae lle ar y fainc i ddau o’r chwaraewyr a gafodd eu gadael allan, Kristian Dacey a Ross Moriarty.

Yn ymuno â Warburton yn y rheng ôl mae Taulupe Faletau a James King.

Fe fydd y prop Tomas Francis yn cynrychioli’i wlad yn Stadiwm y Mileniwm am y tro cyntaf, wrth i Gethin Jenkins a Ken Owens gwblhau triawd y rheng flaen.

Jake Ball a Dominc Day sydd wedi’u henwi yn yr ail reng.

Yr haneri yw Rhys Webb a Dan Bigger, tra bod partneriaeth newydd rhwng Scott Williams a Cory Allen yn y canol.

Y triawd yn y cefn fydd George North, Alex Cuthbert ar yr esgyll, a Leigh Halfpenny yn safle’r cefnwr.

Yn ymuno â Dacey a Moriarty ar y fainc mae Paul James, Aaron Jarvis, Luke Charteris, Gareth Davies, Rhys Priestland a Matthew Morgan.

Tîm Cymru: L Halfpenny, A Cuthbert, C Allen, S Williams, G North, D Biggar, R Webb, G Jenkins, K Owens, T Francis, J Ball, D Day, J King, S Warburton, T Faletau. Eilyddion: K Dacey, P James, A Jarvis, L Charteris, R Moriarty, G Davies, R Priestland, M Morgan.