Mae gwleidyddion, undebau ac academyddion wedi arwyddo llythyr agored sy’n galw ar Lywodraethau’r DU a Chymru i ailystyried toriadau S4C a’r BBC gan ofyn iddynt ymrwymo i’w hariannu yn y dyfodol.

Mae’r datganiad, a baratowyd gan Glymblaid Diwygio’r Cyfryngau, yn nodi nad yw’r corfforaethau sy’n rhedeg y cyfryngau ym Mhrydain yn llwyddo i “gynrychioli poblogaethau Prydain, ac yn arbennig cymunedau a diwylliannau Cymru”.

Mae’r datganiad yn galw felly am ddiwygio’r cyfryngau drwy ddadwneud y toriadau a datganoli’r pwerau darlledu.

“Asedau cymunedol”

Gyda’r drafodaeth am adnewyddu siarter y BBC a ffi’r drwydded yn parhau, mae’r datganiad wedi’i ysgrifennu i roi pwysau ar  Lywodraeth San Steffan i ailystyried y toriadau arfaethedig.

Mae’r datganiad yn nodi y byddai’r toriadau i’r cyfryngau “yn niweidio’r economi greadigol yng Nghymru ac yn lleihau nifer y cyfleoedd gwaith o ansawdd”.

Pwynt arall sy’n cael sylw yn y datganiad yw’r galw i wneud papurau newydd lleol yn “asedau cymunedol o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011”.

‘Gwerth diwylliannol aruthrol’

Mae tua deg ar hugain wedi arwyddo’r datganiad hyd yn hyn, ac mae’n cynnwys gwleidyddion, aelodau o undebau, ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith a nifer o academyddion sy’n arbenigo ar y cyfryngau.

Yn eu plith, mae Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol dros Geredigion, Mark Williams a ddywedodd fod “S4C yn rhoi gwerth diwylliannol aruthrol i Gymru”.

Aeth yn ei flaen i ddweud fod “ariannu’r cyfryngau yn gywir yn hollbwysig i ardaloedd a chymunedau fel Ceredigion”.

Dywedodd ei fod yn “pryderu’n fawr” am y toriadau arfaethedig i’r BBC ac S4C ac am “yr effaith byddai hynny’n ei adael ar Gymru”.

Nid yn unig dyfodol S4C sydd yn y fantol ond hefyd “cwmnïau cynhyrchu annibynnol sy’n paratoi deunydd ar eu cyfer”, esboniodd Mark Williams.