Bydd Amgueddfa Wlân Cymru ynghau ddydd Sadwrn
Fe fydd rhai o amgueddfeydd mwyaf poblogaidd Cymru ar gau dros Ŵyl y Banc oherwydd streic ar ôl i undeb fethu â dod i gytundeb ag Amgueddfa Cymru ar delerau gwaith.

Mae disgwyl i Amgueddfa Lofaol Cymru ‘Big Pit’ fod ar gau drwy gydol y penwythnos, gan gynnwys dydd Llun, ac fe fydd sawl amgueddfa arall yn cael ei heffeithio hefyd.

Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Wlân Cymru i gyd ar gau dydd Sadwrn, 29 Awst.

Ac fe fydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan ar agor, ond gyda’r posibiliad y bydd rhai orielau neu adeiladau ar gau.

Dywedodd Amgueddfa Cymru eu bod yn siomedig â phenderfyniad undeb y PCS i fwrw ymlaen â’r streic.

Trafod yn parhau

Mae’r undebau wedi bod yn anhapus â chynlluniau i leihau’r taliadau ychwanegol mae staff yn ei gael am weithio ar y penwythnos, ond fe fynnodd Amgueddfa Cymru eu bod yn ceisio dod i ddealltwriaeth.

“Mae trafodaethau Amgueddfa Cymru gydag Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) drwy ACAS ar ddyfodol y Taliadau Premiwm, ymysg materion eraill, yn parhau,” meddai Amgueddfa Cymru mewn datganiad.

“Rydym yn dal yn gobeithio dod i gytundeb ar y mater hwn, felly siom oedd cael gwybod am fwriad PCS i barhau â’u gweithredu diwydiannol yn ystod y broses gymodi.

“Bydd sawl un o’n Hamgueddfeydd yn parhau ar agor i ymwelwyr, ond rydym yn annog unrhyw un fydd am ymweld â’n Hamgueddfeydd i fynnu’r wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan cyn teithio.

“Rydym wedi rhoi cynnig gwell gerbron PCS ac mae’r undeb yn ei ystyried ar hyn o bryd. Dyma’r gorau y gallwn ni gynnig o ystyried yr adnoddau ariannol sydd gennym, sydd wedi crebachu dros 20% yn y blynyddoedd diwethaf.”

Cyflog Byw

Mynnodd Amgueddfa Cymru eu bod nhw’n gwneud popeth yn eu gallu i ddod i gytundeb â’r undeb, gan gynnwys talu’r Cyflog Byw i’w holl staff.

“Mae ein cynnig newydd yn cynnwys £300 ychwanegol i bob aelod o staff yr effeithir arno, ar ben yr iawndal a gynigir eisoes, sef £3,600 y pen ar gyfartaledd. Rydym hefyd wedi cynnig 6% o gynnydd yn y tâl sylfaenol, yn hytrach na 4%,” meddai Amgueddfa Cymru.

“Bydd y rheini ar y radd isaf yn cael yr opsiwn o dderbyn yr iawndal neu gael eu hamddiffyn rhag colledion ariannol dros y pum mlynedd nesaf. Byddwn hefyd yn talu’r Cyflog Byw o leiaf, sef £7.85 yr awr, i’n staff i gyd.

“Fel y mwyafrif o gyrff cyhoeddus, rydym yn gweithredu o fewn cyllideb gyfyngedig ac yn cael ein gorfodi i gynllunio ar gyfer rhagor o doriadau. Felly, nid oes dewis gennym ond cael gwared ar y Taliadau Premiwm, sydd yn costio rhyw £800,000 y flwyddyn i’r Amgueddfa ar hyn o bryd.

“Mae ein staff yn bwysig iawn i ni. Rydym am amddiffyn swyddi cymaint â phosib yn unol â’r adnoddau sydd gennym. Nid yw diswyddiadau gorfodol yn rhan o’r cynnig hwn ac nid ydym yn ystyried gwasanaethau contract allanol ar hyn o bryd.”