Caerdydd
Mae dadlau rhwng Cyngor Caerdydd a Chymdeithas yr Iaith am le’r Gymraeg ym mholisi cynllunio’r awdurdod lleol.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod arweinydd Cyngor Caerdydd Phil Bale wedi anfon llythyr atyn nhw’n dweud nad yw’r  iaith yn rhan “o wead cymdeithasol” y brifddinas.

Ond mae’r cyngor wedi dweud eu bod nhw o blaid cael Caerdydd cwbl ddwyieithog a bod Cymdeithas yr Iaith wedi “tynnu’r geiriau allan o’u cyd-destun.”

Yn ôl Cyfrifiad 2011, dim ond 11% o siaradwyr Cymraeg sy’n byw yn y brifddinas, er ei fod yn amrywio o ardal i ardal.

Mae’r cyngor yn bwriadu codi 40,000 o dai dros y ddegawd nesaf i ddiwallu’r angen wrth i boblogaeth y ddinas gynyddu.

‘Hurt’

Ond wrth ymateb i’r llythyr, dywedodd cadeirydd cell Caerdydd o Gymdeithas yr iaith, Carl Morris,  bod angen ailystyried y cynllun datblygu lleol yng Nghaerdydd.

“Mae’n rhaid dweud bod yr honiad yn un hurt ac yn gwbl anwybodus, ac yn amlwg yn codi cwestiynau sydd angen eu hateb o ran agwedd a pholisi’r awdurdod a’i swyddogion.

“Nid ydym o’r farn bod yr honiad yn adlewyrchu cefnogaeth arweinydd presennol y Cyngor i’r iaith, ond yn hytrach anwybodaeth swyddogion yr adran gynllunio.”

Ychwanegodd: “Byddwn yn pwyso ar y Cyngor i fabwysiadu newidiadau i’r cynllun datblygu ynghyd ag atodlen iddo sy’n amlinellu polisi ynghylch cynllunio a’r iaith sy’n llawer mwy cynhwysfawr ac sydd â’r bwriad o gefnogi twf yr iaith yn ein prifddinas.”

Ychwanegodd yr ymgyrchydd iaith Emyr Lewis o’r grŵp Dyfodol i’r iaith ar y Post Cyntaf ei bod hi’n “anodd iawn credu nad ydi’r Gymraeg yn rhan o wead cymdeithasol y brifddinas.”

‘Ystyried yr iaith’

Bydd swyddogion lleol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cwrdd ag arweinydd y Cyngor Phil Bale i drafod materion cynllunio ar ddiwedd mis Medi.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: “Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei archwilio ar hyn o bryd gan Arolygydd Cynllunio Llywodraeth Cymru. Mae’r iaith Gymraeg wedi cael ei ystyried fel rhan o’r broses archwilio.

“Mae’r geiriad sy’n cael ei ddyfynnu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg – sy’n iaith dechnegol – wedi cael ei gymryd o ddogfen cyfarwyddyd cynllunio cenedlaethol.

“Yn anffodus, mae’r geiriad wedi cael ei ddefnyddio’n ddethol yn yr achos hwn gan ei fod yn methu dangos cyd-destun llawn sut y cafodd y geiriad ei ddefnyddio yn y ddogfen gynllunio.

“Mae’n siomedig bod y mater hwn wedi cael ei godi mor hwyr. Mae cyfle digonol wedi bod i bawb sydd eisiau, i wneud sylwadau drwy’r broses ymgynghori.”