Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am gymorth i ddod o hyd i fachgen 15 oed sydd ar goll o bentref Bryngwran yn Ynys Môn.
Nid yw Benjamin ‘Ben’ Newman-Hughes wedi cael ei weld ers iddo adael ei gartref am 1yp ddydd Sadwrn, 22 Awst.
Mae Ben yn wyn ac yn 5’6 o daldra, ac roedd yn gwisgo cot ledr gyda hwdi du, trywsus tywyll a chap lliw du pan gafodd ei weld diwethaf. Roedd yn cario sach gefn ddu ‘Adidas’.
Dywedodd Sarjant Gary Lloyd ar ran Heddlu’r Gogledd: “Cafodd Ben ei weld yn gadael ei gartref brynhawn dydd Sadwrn, gyda’i rieni yn credu ei fod yn ymweld â ffrind yn lleol.
“Rydym yn apelio ar unrhyw un sydd wedi gweld Ben, neu yn gwybod ble mae o i gysylltu gyda’r Heddlu. Nid yw ei deulu wedi clywed ganddo ers dydd Sadwrn ac maen nhw’n pryderu am ei les. Rwyf hefyd yn apelio ar Ben yn bersonol i gysylltu gyda’r heddlu neu ei deulu neu ffrindiau i adael iddyn nhw wybod ei fod yn ddiogel.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am Ben Newman-Hughes gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu gysylltu gyda Thaclo’r Tacle ar 0800 555 111.