Mae cleifion yng Nghymru yn gorfod aros yn hirach i gychwyn triniaeth nag oedden nhw yn 2011, yn ôl gwaith ymchwil gan Blaid Cymru.

Dengys ffigyrau fod nifer y cleifion sy’n aros yn hirach na 36 wythnos i gychwyn triniaeth ar y Gwasanaeth Iechyd (GIG) wedi mwy na threblu o 7,434 i 25,373 rhwng Medi 2011 a Mehefin eleni, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Mae canran y cleifion sy’n aros 26 wythnos o leiaf wedi cynyddu o 8.5% o’r holl gleifion i 15.2%.

Yn ôl Plaid Cymru, mae’r  cyfanswm o 66,819 o gleifion yn aros yn hwy na’r amser targed o 26 wythnos sy’n gynnydd o 100% dros y cyfnod a oedd yn sefyll ar 33,301 o gleifion ym Medi 2011.

‘Annerbyniol’

 

Dywedodd Elin Jones, llefarydd iechyd Plaid Cymru fod yr amseroedd aros hwy yn siomedig ac yn annerbyniol.

“Ddylai neb orfod aros chwe mis neu hyd yn oed naw – a hynny’n aml mewn poen – am driniaeth. Mae oedi cyn triniaethau yn difetha ansawdd bywyd pobl.

“Mae’r ffigyrau hyn yn amlygu’r ffaith fod perfformiad cyffredinol y Gwasanaeth Iechyd yn gwaethygu er bod y gyllideb iechyd wedi cynyddu. A’r ffeithiau yw bod cleifion yng Nghymru yn aros yn hwy am driniaeth nac yn yr Alban a Lloegr. Mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau mwy pendant.”

‘Monitro byrddau iechyd’

Mae Elin Jones yn dadlau fod angen monitro’r byrddau iechyd yn fwy effeithiol, fel yr eglurodd: Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cyflwyno cyfres o fesurau i drawsnewid y sefyllfa hon, gan gynnwys monitro byrddau iechyd yn llymach, a hyfforddi a recriwtio 1,000 yn ychwanegol o feddygon, yn enwedig mewn meysydd lle mae prinder.

“Mae angen i fyrddau iechyd sicrhau bod profion diagnostig yn cael eu cynnal yn gynt oherwydd gall y profion hyn nodi lle nad oes angen triniaeth, a thrwy hynny fyrhau rhestrau aros.”