Mae cynhadledd arbennig wedi dechrau yn y Motorpoint Arena yng Nghaerdydd heddiw wrth i Gymdeithas Ryngwladol Plismonesau ddathlu ei chanmlwyddiant.
Cafodd y gymdeithas ei sefydlu yn 1915 fel sefydliad rhyngwladol ar gyfer menywod oedd yn gweithio mewn swyddi’n ymwneud â chyfiawnder troseddol.
Erbyn hyn, mae gan y Gymdeithas aelodau mewn 60 o wledydd.
Dechreuodd y gynhadledd y bore ma gyda seremoni arbennig yn Neuadd Dewi Sant, cyn i’r gymdeithas gynnal gorymdaith drwy strydoedd y brifddinas.
Fe fydd nifer o weithdai a sesiynau hyfforddi’n cael eu cynnal dros y dyddiau nesaf, yn ogystal â noson ddiwylliannol yng Nghanolfan y Mileniwm nos Lun a chinio yng Nghastell Caerdydd nos Fawrth.
Mae teuluoedd y plismonesau cyntaf yn ne Cymru wedi derbyn gwahoddiad i’r gynhadledd yn dilyn ymdrechion gan yr heddlu presennol i ddod o hyd iddyn nhw.
Elsie Baldwin oedd y blismones gyntaf i’w phenodi gan Gwnstabliaeth Morgannwg.