Fis nesaf fe fydd arddangosfa newydd yn agor ei drysau sydd yn adrodd hanes y Cymry wnaeth sefydlu’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.
Fel rhan o’r dathliadau 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa, bydd arddangosfa ‘Patagonia 150: Ein Taith i’r Byd Newydd’ yn Abertawe yn dilyn hanes teithwyr ar long y Mimosa ac yn edrych ar beth wnaeth iddyn nhw adael eu cartrefi a theithio ar draws Môr yr Iwerydd i bellter byd.
Bydd yr hanes yn cael ei adrodd mewn pedwar rhan – bwthyn Cymreig, swyddfa longau yn Lerpwl, caban ar fwrdd y Mimosa, a bwthyn llychlyd ym Mhatagonia, gyda phob ystafell yn cynnwys dyfyniadau a lluniau o bobl wnaeth fudo i’r Wladfa.
Mae diwrnod o ddigwyddiadau hefyd wedi cael ei drefnu i gyd-fynd â’r arddangosfa fydd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, nes 11 Hydref 2015.
‘Pennod ryfeddol o hanes’
Erbyn hyn mae tua 50,000 o bobl o dras Gymreig yn byw yn ardal Chubut yng ngogledd Patagonia, gyda thua 5,000 ohonyn nhw yn dal i siarad Cymraeg.
Mewn trefi sydd â threftadaeth Gymreig gref, fel Gaiman, Trelew a Dolavon yn y dwyrain a Threvelin yn y gorllewin, mae nifer o gapeli ac ystafelloedd te Cymreig yn parhau i fod yno.
Wrth siarad am yr arddangosfa, dywedodd Andrew Deathe, y Swyddog Arddangosfeydd: “Dyma bennod ryfeddol yn hanes Cymru ac rydym yn falch iawn o gael cyfle i adrodd hanesion rhai o’r bobl oedd yn rhan ohoni.
“Yn yr arddangosfa hon rydym wedi ceisio rhoi syniad o sut deimlad fyddai gadael popeth a symud i wlad gwbl ddiarth ym mhen draw’r byd. Rydym am ddathlu dewrder y bobl hyn ac rydym yn annog ymwelwyr i grwydro o gwmpas yr arddangosfa i ddarganfod mwy.”
Digwyddiadau
I gyd-fynd â’r arddangosfa, bydd diwrnod o ddigwyddiadau ar thema Patagonia yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 19 Medi gan gynnwys gweithgareddau, sgyrsiau a cherddoriaeth.
12pm: Dros y Don i Batagonia, Ymunwch â’r hanesydd Gerallt Nash wrth iddo adrodd hanes hynod yr ymgais i sefydlu gwladfa Gymreig yn ne’r Ariannin.
12.30pm-3.30pm: Celf y Môr, Yr artist o’r Ariannin Carlos Pinatti fydd yn helpu ymwelwyr i greu darlun dychmygus o fordaith y Mimosa.
2pm: Dathlu 150 Mlwyddiant y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, sgwrs gan Dr Walter Ariel Brooks, darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd a Phatagoniad o dras Gymreig.
3.30pm: Cwlwm Cenedl: straeon i uno Pontiets a’r Paith, sgwrs gan Rhiannon Williams wrth iddi ddathlu Patagonia 150 a thaith y Mimosa o Lerpwl i Puerto Madryn.