Mae Shane Williams wedi dweud y bydd y pwysau i gyd ar Loegr ac Awstralia yng Nghwpan y Byd ac mai Cymru yw’r “trydydd ffefryn” i ddianc o’u grŵp heriol.

Cododd cyn-asgellwr Cymru bryderon hefyd dros absenoldeb y bachwr Richard Hibbard o’r garfan, gan ddweud y byddai’r tîm wedi elwa o’i “gryfder yn y sgarmes a’i natur gorfforol”.

Dywedodd y prif sgoriwr ceisiau yn hanes Cymru fod yna ddiffyg dyfnder yn nhîm Cymru ar hyn o bryd – yn enwedig yn y canol, ble mae Tyler Roberts yn drydydd dewis y tu ôl i Jamie Roberts a Scott Williams.

Bydd Cymru yn herio Lloegr, Awstralia, Ffiji ac Uruguay yn eu grŵp Cwpan y Byd, a dim ond dau o’r timau hynny fydd yn cyrraedd rownd nesaf y gystadleuaeth.

Disgwyliadau is

O ystyried cryfder y gwrthwynebwyr yng ngrŵp Cymru mae Shane Williams yn credu y bydd llai o bwysau o bosib ar ysgwyddau bechgyn Warren Gatland.

“Bydd Cymru yn drydydd ffefryn allan o’r tri a falle bydd hynna’n ymlacio’r chwaraewyr wrth wybod y byddan nhw’n underdogs yn erbyn Lloegr,” meddai.

“Ac mae Awstralia, ar ôl eu llwyddiant nhw yn ddiweddar, yn ffefrynnau o flaen Cymru, felly os unrhyw beth mae hynny’n tynnu’r pwysau oddi ar Gymru ychydig.”

Dim Hibbard

Er i Shane Williams gyfaddef nad yw’n “arbenigwr ar y rheng flaen” dywedodd ei fod wedi “synnu” ac yn “pryderu” fod Richard Hibbard yn un o’r chwaraewyr sydd wedi’u rhyddhau o’r garfan.

“Roeddwn i’n meddwl y byddai gan Richard Hibbard, gyda’i gryfder yn y sgarmes a’i natur gorfforol, siawns dda o fod yn rhan o Gwpan y Byd,” meddai cyn-asgellwr Cymru.

Awgrymodd hefyd nad oedd gan Gymru’r un dyfnder â’i gwrthwynebwyr cryfaf yng Nghwpan y Byd eleni.

“Yn y canol ar hyn o bryd fe fyddech chi’n mynd am Jamie Roberts a Scott Williams,” meddai Shane Williams.

“Byddai Tyler Morgan yn dod mewn, ac fe chwaraeodd e’n dda yn yr ail hanner yn erbyn Iwerddon –  ond does ganddo fe ddim y profiad.

“Felly mae ambell ardal a safle – a does dim angen cynhyrfu eto – ble mae Lloegr ac Awstralia yn edrych yn gryf iawn ar y funud.”