Mae swyddogion mewnfudo wedi arestio dyn a dynes o India, mewn cyrch ar ddwy siop ym Maesteg.

Mae datganiad gan y Swyddfa Gartref yn cadarnhau fod y swyddogion wedi’u hanfon i siop Costcutter ar Ffordd Caerau am 7yb fore heddiw “o ganlyniad i dderbyn gwybodaeth”. Mae gwraig Indiaidd, 31 oed, wedi’i harestio am aros yng ngwledydd Prydain wedi i’w fisa ddod i ben.

Fe aeth y swyddogion hefyd i siop Caerau Village Stores, lle cafodd dyn Indiaidd, 32 oed, ei arestio. Fe ganfuwyd ei fod wedi dod i mewn i wledydd Prydain yn anghyfreithlon.

Mae’r ddau wedi’u trosglwyddo i ddalfa, cyn y byddan nhw’n cael eu hanfon o’r Deyrnas Unedig.