Mae dyn hynaf Cymru wedi marw yn 108 mlwydd oed.

Bu farw Samuel Ledward o Wernymynydd ger Yr Wyddgrug yn Blackpool ddoe – er iddo gael ei ddatgan yn farw unwaith o’r blaen, yn 1936 yn dilyn damwain beic modur.

Yn dilyn y ddamwain, aeth Mr Ledward i goma oedd mor ddwfn nes bod meddygon yn credu ei fod wedi marw. Mater o lwc oedd hi pan welodd porthor yr ysbyty o’n symud wrth ei gludo i’r marwdy. Fe gafodd wellhad llwyr, a byw am 79 mlynedd arall.

Fe anwyd Samuel Ledward, a weithiodd fel saer am y rhan fwyaf o’i fywyd, yn Swydd Caer yn 1906. Bu’n byw â’i wraig yn Blackpool nes iddi hi farw, ac fe symudodd i Gymru. Mae ei fab a’i ŵyr yn parhau i fyw yn Blackpool.