Neil Kinnock
Mae’r teulu Kinnock wedi troi ar y ffefryn i ennill ras arweinyddiaeth y Blaid Lafur.

Yn ôl y tad, Neil Kinnock, mae peryg i aelodau’r blaid wneud camgymeriad trwy “blesio eu hunain” a dewis Jeremy Corbyn yn hytrach na gwneud penderfyniad realistig.

Yr angen mawr, meddai’r cyn arweinydd, oedd canolbwyntio ar ennill grym er mwyn ymateb i anghenion pobol.

Pe bai’r blaid yn dewis Jeremy Corbyn, meddai’r Arlgwydd Kinnock ar Radio Wales, fe fyddai hynny’n ddewis “mewnblyg, hunan-foddhaus” ac fe allai fod yn “ddewis anghywir”.

Ar yr un rhaglen, fe ddywedodd ei fab, Stephen Kinnock sydd bellach yn AS Aberafon, ei bod yn anodd gweld sut y gallai Jeremy Corbyn arwain y blaid ac yntau wedi gwrthryfela’n gyson yn erbyn arweinwyr eraill.