Mae priffordd yr A496 ger Y Bermo wedi cau ar hyn o bryd oherwydd damwain ddifrifol.
Fe ddigwyddodd y ddamwain rhwng beic modur Harley Davidson a char VW Passat o gwmpas hanner dydd, ger y Wayside Inn yn Llanaber.
Fe gafodd gyrrwr beic modur ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau sy’n bygwth ei fywyd yn dilyn y gwrthdrawiad.
Mae trigolion lleol wedi cadarnhau wrth Golwg 360 mai Ambiwlans Awyr Cymru a gludodd y beiciwr i’r ysbyty.