Lladd-dy Dunbia yn Llanybydder
Mae perchnogion y lladd-dy sydd wedi gwrthod stoc gan brotestiwr yn dweud nad oes ganddynt “bolisi” ar y mater yma.

Dywedodd Dunbia wrth Golwg 360 eu bod yn cydweithio gyda’r fferiwyr i benderfynu derbyn stoc i’w safleoedd.

Roedd Gwyndaf Thomas o Lanybydder yn Sir Gaerfyrddin yn honni bod lladd-dy Dunbia yn y pentre’ wedi gwrthod cymryd wyn i’w lladd ganddo oherwydd ei fod wedi protestio o flaen archfarchnad Tesco yng Nghaerfyrddin.

Ond meddai llefarydd ar ran cwmni Dunbia: “Does yna ddim polisi o wrthod stoc gan ffermwyr sydd wedi bod yn rhan o’r protestiadau.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda’n ffermwyr a grŵp cynhyrchu er mwyn seilio ein penderfyniadau ar amodau a thelerau sydd wedi cael eu cytuno.”

“Mewn sioc”

Ddoe, roedd Gwyndaf Thomas yn dweud ei fod wedi delio gyda’r lladd-dy, ar hen safle Oriel Jones yn Llanybydder, am 40 mlynedd ac yn mynd â chymaint â 600 o wyn yno mewn blwyddyn. Roedd “mewn sioc” gyda’r ffordd roedd y cwmni wedi ymddwyn, meddai.

Ers rhai wythnosau mae ffermwyr ar hyd a lled gwledydd Prydain wedi bod yn protestio gan honni fod archfarchnadoedd yn talu prisiau rhy isel am lefrith a chig oen.