Porth Tywyn
Mae traeth gorllewinol Porth Tywyn wedi’i gau i ymwelwyr ar hyn o bryd, tra bod yr heddlu’n ymchwilio bom sydd wedi’i golchi ar y lan.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau iddyn nhw gael eu galw i’r traeth ger Llanelli toc wedi 11yb heddiw, wedi i wylwyr y glannau riportio gweld bom heb ffrwydro ar y traeth.

Mae arbenigwyr difa bomau wedi’u galw, ac mae’r ardal wedi’i chau nes bod y lle’n cael ei gyhoeddi’n ddiogel.