Eglwys St Elfan, Aberdâr
Mae eglwys yn Aberdâr sy’n cael ei hadnabod yn lleol fel ‘Cadeirlan y Cymoedd’ wedi derbyn £55,100 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn cwblhau gwaith adnewyddu.

Mae cynlluniau ar y gweill i wario £800,000 er mwyn gweddnewid Eglwys St Elfan.

Byddai’r eglwys ar ei newydd wedd yn cynnwys creu gofod treftadaeth gymunedol ar gyfer Cwm Cynon a’r cyffiniau.

Gobaith yr eglwys yw cyflwyno caffi, gofod celf a chrefft, arddangosfeydd newydd, ystafelloedd newydd ar gyfer y gymuned a gweithgareddau rhyngweithiol ar hanes yr eglwys a’r ardal.

Fe fydd modd hefyd i grwpiau theatr ddefnyddio’r eglwys ar gyfer perfformiadau ac ymarferion, tra bydd cyngherddau yn cael eu cynnal yn yr eglwys.

Mae disgwyl i’r gweithgareddau rhyngweithiol gael eu lleoli yng Nghapel St Michael, sy’n gartref i gofeb i filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd.

Fe fydd arddangosfeydd yn cynnwys opsiynau sain fydd yn adrodd hanes yr eglwys a’r dref.

Hanes yr eglwys

Cafodd yr eglwys ei chodi yn 1852 a bellach, mae’n adeilad cofrestredig graddfa 2 a hynny yn sgil ei phensaernïaeth.

Roedd yr eglwys yn diwallu anghenion y Cymoedd yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg wrth i weithwyr diwydiannol heidio yno i weithio yn y pyllau glo a’r gweithfeydd haearn.

Roedd y tir y cafodd yr eglwys ei chodi arno’n eiddo i Farcwis Bute, ac roedd y gwaith o gynnal a chadw’r eglwys yn y dyddiau cynnar wedi’i ariannu gan ddiwydianwyr mawr yr ardal.