Mae pump o bobol yn eu harddegau wedi’u harestio yn dilyn tân mewn eglwys wag yn Llanelli.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau fod bachgen 16 oed a phedwar o fechgyn 15 oed yn y ddalfa, wedi i’r gwasanaethau brys gael eu galw i Eglwys Annibynwyr y Parc ar Stryd Murray yn y dre’ ben bore Gwener, Awst 14.
Fe fu criw o 40 o ymladdwyr tân yn ceisio diffodd y fflamau, ac fe gafodd trigolion eu symud o’r tai cyfagos.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dal i ymchwilio i’r achos, ac maen nhw’n apelio ar i dystion ddod yn eu blaenau.