Lluniau teledu cylch cyfyng o'r car (Heddlu De Cymru)
Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i ddiflaniad Alec Warburton o Abertawe yn parhau i apelio am wybodaeth a allai eu helpu wrth iddyn nhw ymchwilio i achos o lofruddiaeth.

Dydy Alec Warburton, 59 o Heol Vivian yn Sgeti, ddim wedi cael ei weld ers Gorffennaf 31 ac mae’r heddlu’n awyddus i siarad â’i denant David Craig Ellis.

Fe gafodd car Peugeot 205 gwyrdd Warburton – rhif cofestru M805 HFJ – ei weld ar gamerâu cylch-cyfyng rhwng 2 o’r gloch y prynhawn a chanol nos ddydd Sadwrn Awst 1 yn ardaloedd Caersws a Betws y Coed.

Yr heddlu’n apelio

Roedd y car wedi dychwelyd i Abertawe erbyn y diwrnod wedyn a’r gred yw mai David Ellis oedd yn ei yrru.

Fe gafodd ei weld yn cael ei yrru o amgylch Abertawe yn ystod y ddeuddydd wedyn ond dyw’r Peugeiot ddim wedi cael ei weld ers Awst 4.

Mae’r heddlu’n gofyn am dystiolaeth gan bobol a welodd y car yn ardal Betws y Coed ar y dydd Sadwrn ac i bobol Abertawe edrych yn eu strydoedd rhag ofn fod y car wedi ei barcio yno.

Rhybudd yr heddlu

Mae’r heddlu wedi gofyn i drigolion lleol yn Abertawe i fod yn wyliadwrus rhag ofn bod y car yn eu hardal nhw, ac i drigolion Betws y Coed rhag ofn eu bod wedi gweld y car yn yr ardal.

Mae’r heddlu wedi apelio’n uniongyrchol ar David Ellis i gysylltu â nhw.

Yn ôl y plismon sy’n arwain yr ymchwiliad, maen nhw’n credu bod ganddo wybodaeth bwysig.