Mae dynes sydd wedi ei chyhuddo o weithred ryw yn ystod cyngerdd BBC Radio 2 yn Hyde Park wedi dweud ei bod hi’n “lled feddw a llawen” ar y pryd, ond nad oedd hi wedi gwneud dim o’i le.

Dywedodd Lisanne Beck, 47, wrth lys yr Old Bailey ei bod hi’n tua pump ar raddfa o un i ddeg o ran meddwdod.

Mae Lisanne Beck, sy’n weinyddes, a’i chariad Simon Murphy, 48, sy’n arddwr, ill dau o Abertawe, wedi eu cyhuddo o ymddwyn yn anweddus drwy gymryd rhan mewn gweithred ryw yn gyhoeddus.

Mae’r ddau yn gwadu’r cyhuddiadau yn eu herbyn a dywedodd Lisanne Beck mai’r unig beth oedd hi’n ceisio ei wneud oedd helpu ei chymar i’r tŷ bach.

Roedd aelodau eraill o’r gynulleidfa wedi cwyno pan welo nhw’r ddau yn ystod set gan Paloma Faith ym mis Medi y llynedd.

Cafodd y cwpl eu ffilmio ar ffôn symudol gan un aelod o’r gynulleidfa a ddywedodd ei fod wedi “synnu” gan yr hyn a welodd, clywodd y rheithgor.

Roedd y cwpl wedi yfed tua thri neu bedwar can o seidr cyn cyrraedd y lleoliad. Dywedodd Lisanne Beck ei bod hi hefyd wedi yfed o botel o fodca a coke.

Y peth nesaf mae hi’n cofio oedd dynion diogelwch yn dod atyn nhw i’w hysbysu am y cwynion a fu am eu hymddygiad cyn taflu’r cwpl allan o’r digwyddiad.