Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dyn ar amheuaeth o ladrata o siop fetio yn Llandudno ddoe.

Mae’r dyn 21 oed wedi’i ddwyn i’r ddalfa wedi i ddyn fynd i mewn i siop bwci William Hill ddoe, a mynnu bod y bobol y tu ol i’r cownter yn rhoi arian iddo.

Yn y cyfamser, mae’r heddlu’n parhau i chwilio am lygad dystion i’r digwyddiad, ac mae’r dyn ifanc yndal i fod yn y ddalfa tra bod yr ymchwiliadau’n parhau.